Llosgfynyddoedd, hafaliadau a chynrhon:Gwyddonwyr Bocs Sebon yn dod i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd llosgfynyddoedd, hafaliadau a chynrhon ymhlith y pynciau amrywiol y bydd gwyddonwyr benywaidd blaenllaw Cymru'n mynd i'r afael â hwy wrth iddynt fynd ar eu bocs sebon i hyrwyddo wyneb benywaidd gwyddoniaeth yn Soapbox Science yr haf hwn ym Mhrifysgol Abertawe.

Soapbox Science Welsh flyer

Ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf o 11am tan 3pm, bydd gwyddonwyr Soapbox Science yn gosod siop y tu allan i Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 ar lan môr Abertawe, fel canolfan ar gyfer trafodaethau gwyddonol, gan ddod â gwyddoniaeth i feicwyr, loncwyr, pobl sy'n cerdded â'u ci a theuluoedd sydd allan yn cerdded yn y Bae mewn ffordd hygyrch, hwylus a hawdd.

Hwn fydd y tro cyntaf y cynhelir y digwyddiad arloesol, sy'n ceisio herio ystrydebau traddodiadol gwyddoniaeth a mynd â gwyddoniaeth i'r cyhoedd yn uniongyrchol, yn Abertawe.

Bydd siaradwyr yn y digwyddiad yn cynrychioli amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys ffiseg, mathemateg, daearyddiaeth, microfioleg, seicoleg, meddygaeth a biowyddoniaeth, ac sy'n gweithio mewn sawl maes, gan gynnwys y byd academaidd, addysg, llywodraeth a busnes.

Ymhlith y siaradwyr bydd yr Athro Julie Williams, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, a fydd yn trafod beth y gall genynnau ddatgelu am ddementia, a bydd yr Athro Siwan Davies o Brifysgol Abertawe'n arwain sgwrs o'r enw ‘Explosive, unpredictable, microscopic but powerful’ , a fydd yn dangos sut y gall darnau bach iawn o ludw folcanig ein helpu i ddeall hinsawdd y gorffennol.

Bydd y siaradwyr o Brifysgol Abertawe'n cynnwys:

  • Dr Geertje van Keulen yn ystyried bacteria da i ddrwg ac yn ôl
  • Dr Ruth Callaway yn adolygu morlynnoedd llanw a bioamrywiaeth
  • Dr Yamni Nigam yn trafod clwyfau cronig a therapi cynrhon
  • Dr Deya Gonzalez yn siarad am anffrwythlondeb menywod a chanserau
  • Sofya Lyakhova yn archwilio harddwch hafaliadau mathemategol

Bydd siaradwyr o brifysgolion eraill Cymru a fydd yn y digwyddiad yn cynnwys Dr Kami Koldewyn o Brifysgol Bangor, a fydd yn trafod sut y gall delweddu'r ymennydd ein helpu i ddeall awtistiaeth, a Nia Blackwell o Brifysgol Aberystwyth, a fydd yn archwilio bioadfer gwastraff mwyngloddio glo a haearn.

Meddai'r Athro Hilary Lappin-Scott, Microfiolegydd a Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Mae gan Abertawe dreftadaeth ddiwydiannol a hanes peirianneg a gwyddoniaeth cyfoethog, ac mae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran arloesedd technoleg a gwyddoniaeth, a fydd yn datblygu ymhellach yn y dyfodol gydag agor Campws y Bae y flwyddyn nesaf.

“Gobeithiaf y bydd Soapbox Science yn rhoi cyfle i bawb sy'n mynd heibio fwynhau, dysgu, heclo, cwestiynu, holi, rhyngweithio a chael eu hysbrydoli gan ein gwyddonwyr blaenllaw. Bydd y menywod anhygoel hyn yn eich rhyfeddu â'u darganfyddiadau, ac rwy'n siŵr y  bydd pawb yn mwynhau eu clywed yn siarad am yr hyn sydd o ddiddordeb iddynt, a pham eu bod o'r farn mai nhw sydd â'r swydd orau yn y byd!"