Myfyrwraig Bydwreigiaeth o Brifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau bydwreigiaeth mawreddog

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwraig bydwreigiaeth o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Bydwreigiaeth Blynyddol 2015 Coleg Brenhinol y Bydwragedd, sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ac arloesi mewn rheoli, addysg, ymchwil ac ymarfer bydwreigiaeth trwy gydol y DU.

Annmarie ThomasMae Annemarie Thomas, sydd yn ei thrydedd flwyddyn o’i hastudiaethau, wedi’i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Myfyriwr Bydwreigiaeth ar ôl cael ei henwebu gan dîm Bydwreigiaeth y Coleg.

Meddai Annemarie: “Braint fawr i mi yw bod mewn sefyllfa mor fendigedig ac mae’r Brifysgol a’r darlithwyr Bydwreigiaeth yn haeddu llawer o gydnabyddiaeth gan fod eu cefnogaeth wedi fy natblygu trwy gydol fy hyfforddiant.

“Rwyf yn mwynhau mynd ymlaen ar y siwrne (fydwreigiaeth) ac mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn rhan wych o’m hyfforddiant.”

Nod Gwobr Myfyriwr Bydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd yw cydnabod myfyriwr bydwreigiaeth sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gymuned y myfyrwyr ac mae’r beirniaid yn chwilio am unigolyn sy’n: Cyfrannu at wella profiad y myfyrwyr wrth astudio bydwreigiaeth, sy’n gweithredu fel hyrwyddwr ac esiampl ar gyfer cyd-fyfyrwyr ac/neu sy’n cyfrannu amser ac ymdrech ychwanegol i fydwreigiaeth trwy ymrwymiad i Goleg Brenhinol y Bydwragedd neu drwy ddatblygu Cymdeithas Bydwreigiaeth.

Ychwanegodd Annemarie, sy’n sylfaenydd Cymdeithas Bydwreigiaeth y Brifysgol: “Cynrychiolaf fyfyrwyr bydwreigiaeth ar fforwm myfyrwyr Coleg Brenhinol y Bydwragedd a gwnaeth hyn fy ysbrydoli i sefydlu cymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe. Bu sefydlu’r gymdeithas yn llawer o waith caled ond mae ei dyfodol yn edrych yn wych. Rwyf yn edrych ymlaen at weld y gymdeithas yn parhau i dyfu a dod â myfyrwyr ynghyd dan arweiniad pwyllgor newydd o fyfyrwyr ymroddedig ac angerddol pan fyddaf yn cymhwyso.

“Rwyf yn falch o fod yn Fyfyrwraig Bydwreigiaeth yn Abertawe ac yn gwerthfawrogi’r addysg a’r cymorth ardderchog yr wyf wedi’u derbyn. Edrychaf ymlaen at barhau i ddysgu fel bydwraig gymwys y flwyddyn nesaf.

“Rwyf wrth fy modd ac mae’r holl brofiadau sy’n gysylltiedig â’r wobr hon yn gyffrous iawn. Rwyf wir yn teimlo’n ffodus iawn.”

Meddai Susanne Darra, darlithydd mewn bydwreigiaeth: “Ers dechrau’i hastudiaethau, mae Annmarie wedi gwella proffil a phrofiad myfyrwyr bydwragedd, i sicrhau y clywir eu llais yn Abertawe ac yng nghymuned ehangach y myfyrwyr.

“Mae Annemarie yn ysbrydoliaeth lwyr. Mae hi’n arweinwr ac yn wrandäwr ac ymddengys ei bod hi’n symbylu ei chyd-fyfyrwyr i weithredu. Mae’i chariad at fydwreigiaeth yn ‘heintus’.  Trwy Gymdeithas Bydwreigiaeth y Myfyrwyr, mae Annemarie heb os wedi gwella hunaniaeth broffesiynol myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

“Mae hi wedi chwarae rôl arweiniol wrth fynd i’r afael â materion allweddol ynghylch y cwricwlwm, mae hi wedi mynd â materion strategol a chlinigol i lefelau uwch (o fewn a’r tu allan i’r Brifysgol), mae hi’n rhannu gwybodaeth am fydwreigiaeth yn eang ac yn rhagweithiol ac mae’n gweithio’n ddiddiwedd yn ei hamser ei hun i hyrwyddo Coleg Brenhinol y Bydwragedd a Chymdeithas Bydwreigiaeth y Myfyrwyr trwy rwydweithio, codi arian a threfnu.  Credwn ei bod hi’n ysbrydoliaeth - mae hi wedi ymrwymo’n llwyr i fydwreigiaeth ac i gefnogi’r proffesiwn.”

Yn ddiweddar teithiodd Annemarie i Lundain i fynychu cyfweliad gyda phanel o swyddogion Coleg Brenhinol y Bydwragedd a Swyddogion Bydwreigiaeth. Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn ystod Cinio Gwobrau Bydwreigiaeth Blynyddol Coleg Brenhinol y Bydwragedd ar y trydydd o Fawrth, 2015 yn y Bragdy, Llundain.