Myfyrwraig Bydwreigiaeth yn cael ei hanrhydeddu gan Wobr Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Nyrsys Cavell

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae mam 41 mlwydd oed o Gymru wedi’i hanrhydeddu mewn digwyddiad mawreddog i ddathlu’r myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth gorau yn y DU.

Jane Cummings and Lindsay SkyrmeCydnabuwyd sgiliau eithriadol myfyrwraig bydwreigiaeth Lindsay Skyrme, sydd yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, yng Ngwobrau Ysgoloriaeth clodfawr 2014 Ymddiriedolaeth Nyrsys Cavell. Daeth Lindsay yn ail ar gyfer y wobr cyrhaeddiad academaidd.

Derbyniodd ei gwobr gan Jane Cummings, Prif Swyddog Nyrsio Lloegr, mewn seremoni ddisglair yn Ninas Llundain, lle'r wraig wadd oedd ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, sy’n Llywydd Apêl Canmlwyddiant Edith Cavell yr elusen.

Yn y DU, mae’r elusen, ‘Cymynrodd byw ar gyfer gofalu a dysgu’, yn cefnogi 650,000 o fyfyrwyr nyrsio, nyrsys wrth eu gwaith a nyrsys sydd wedi ymddeol, bydwragedd a chynorthwywyr gofal iechyd y mae angen cymorth ariannol arnynt yn dilyn salwch, anaf neu anawsterau eraill.

Mae’r ysgoloriaethau’n ffurfio rhan o’u rhaglen addysgol ac maent ar agor i fyfyrwyr sy’n astudio ar hyn o bryd ar gyrsiau nyrsio neu fydwreigiaeth israddedig/ôl-raddedig neu ddiploma mewn prifysgolion yn y DU.

Wrth dderbyn ei gwobr meddai Lindsay: “A dweud y gwir, ni feddyliais erioed y  byddwn yn dod mor bell yn yr ysgoloriaethau. Roedd hyd yn oed gyrraedd y rhestr fer yn fwy nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl, felly mae’n anrhydedd dod yn ail. Roedd yn rhaid i fy nhiwtor fy annog i gymryd rhan yn y gwobrau, ond pan ddarllenais i am Edith Cavell daeth yn rhywbeth yr oeddwn i am ei gydnabod a bod yn rhan ohono.”

Dechreuodd Lindsay, sy’n fyfyrwraig hŷn, astudio bydwreigiaeth ar ôl gyrfa 20-mlynedd yn y diwydiant gwestai ac yn dilyn genedigaeth ei merch, sydd bellach yn bedair blwydd oed. “Roeddwn i wastad â diddordeb mewn bydwreigiaeth a chefais fy swyno ganddi ar ôl cael babi. Dyna pryd rydych yn sylweddoli bod y gwahaniaethau sy’n ymddangos i fod yn rhai bach, yn aml yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i famau newydd, a bod cefnogi’r trawsnewidiad i fod yn rhiant o bwys mawr.”

Mae Lindsay bellach yn cynllunio parhau â’i hastudiaethau trwy ddilyn PhD yn archwilio dulliau naturiol yn erbyn dulliau technocratig o ran bwydo ar y fron.

Cafodd oddeutu 29 o fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth o ar draws y wlad eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer yr anrhydeddau mewn pum categori gwahanol yn rhychwantu nyrs a bydwraig eithriadol, arweinyddiaeth, cyrhaeddiad academaidd a chymunedol.

Roedd y broses ddethol drwyadl yn cynnwys cyfweliadau manwl i’r ymgeiswyr gan banel o feirniaid yn cynnwys rhai o’r ffigurau mwyaf blaenllaw mewn nyrsio gan gynnwys Helen Whyley, Swyddog Nyrsio Cymru a’r Athro Lesley Page, Llywydd Coleg Brenhinol y Bydwragedd.

Hon yw trydedd flwyddyn yr ysgoloriaethau, sy’n cael eu hyrwyddo gan brifysgolion, gyda’r nod o roi cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth eithriadol ddatblygu ymhellach eu harferion proffesiynol a’u rhinweddau personol.

Meddai’r Dywysoges Frenhinol, wrth annerch y gynulleidfa a wahoddwyd i’r digwyddiad gwobrwyo: "Mae’n bleser i mi ymuno â chi heno, mae’n achlysur hyfryd lle gallwn ddathlu a llongyfarch ein henillwyr ond hefyd roi diolch, yn enwedig i Ymddiriedolaeth Nyrsys Cavell am gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr Nyrsio ym Mhrydain ar gyfnod mor bwysig yn ystod eu gyrfaoedd.

Meddai ei Huchelder Brenhinol ei bod yn falch o fod yn Llywydd apêl canmlwyddiant yr elusen, gan ychwanegu: "Mae’r Ymddiriedolaeth yn credu bod hyn yn adeg briodol i ganiatáu i ni fuddsoddi hyd yn oed fwy yn nyfodol ein nyrsys a’n bydwragedd ifainc. Nod gwerthfawr dros ben ydyw ac mae digwyddiad o’r math hwn yn codi proffil y bobl ifanc hyn.”

Meddai fod enillwyr y gwobrau bellach ag "anrheg werthfawr dros ben" i allu mynd allan a dysgu.


"Os oes gan yr Ymddiriedolaeth y gallu i gefnogi mwy ohonynt, gallant ddenu mwy o bobl i’r cyfle a chefnogi eu huchelgeisiau a’u breuddwydion ar gyfer y dyfodol."

Mae’r elusen, sy’n helpu cannoedd o nyrsys, bydwragedd a chynorthwywyr gofal iechyd bob blwyddyn sy’n dioddef caledi o achos salwch, anabledd, chwalfa deuluol neu gam-drin domestig, yn hyrwyddo cyfres o ddigwyddiadau codi arian ar gyfer yr Apêl Ganmlwyddiant. Am ragor o wybodaeth am y rhain a gwybodaeth am waith Ymddiriedolaeth Nyrsys Cavell, ewch i www.cavellnursestrust.org neu ffoniwch 01527 595999.