Myfyrwyr Peirianneg Sifil yn ymweld â safle Campws y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu grŵp o fyfyrwyr MEng Peirianneg Sifil o Brifysgol Abertawe yn ymweld â champws newydd y Brifysgol, Campws y Bae. Cafodd y myfyrwyr eu cyflwyniad cyntaf i’r byd adeiladu masnachol wrth iddynt weithio mewn grwpiau gydag ymgynghorwyr adeiladu lleol wrth iddynt ddatblygu prosiectau go iawn, o’r broses cynllunio hyd at y broses adeiladu.

Yn ystod eu hymweliadau â’r campws, cafodd y myfyrwyr gyfle i gwrdd ag Uwch Gyfarwyddwyr Prosiect VINCI Construction UK, a chafwyd cyflwyniad oedd yn adlewyrchu’r gwaith adeiladu ar Gampws y Bae, yn ogystal â rhai o’r pynciau adeiladu oedd yn berthnasol i’w cwrs gradd.

Cafodd y myfyrwyr eu harwain ar daith ar hyd y campws newydd, lle cafon nhw brofiad uniongyrchol o faint yr adeiladau wrth iddynt gael mynediad i loriau uchaf y Neuadd Fawr sydd wedi’i leoli yng nghanol y campws.

Wrth deithio o amgylch y safle, dysgodd y myfyrwyr am waith adeiladu Campws y Bae, ei gynaliadwyedd, ac o hanes a chyfyngiadau adeiladu’r safle. Dysgodd y myfyrwyr hefyd am faterion technegol sy’n ymwneud â'r cynlluniau’r Neuadd Fawr, y bloc ar gyfer llety myfyrwyr a’r llyfrgell.

Civil Engineering students visit Bay Campus

 

 

 

 

 

 

 

 

Cafodd y myfyrwyr gyfle i gwrdd â Naomi Boast, cyn-fyfyriwr Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe sydd bellach yn gweithio fel Peiriannwr VINCI Construction. Yn dilyn cyfnod o weithio i VINCI fel rhan o gynllun Rwydwaith Interniaeth  Thâl Abertawe (SPIN) Prifysgol Abertawe, cafodd Naomi gynnig swydd barhaol gan VINCI yn syth ar ôl iddi raddio.

Meddai Reem Boujard, un o’r myfyrwyr Peirianneg Sifil bu’n ymweld â’r campws: “Roedd ein hymweliadau â Champws y Bae yn fuddiol dros ben wrth i ni weld sawl mater buom yn dysgu amdano yn dod at ei gilydd ar y campws. Mae’r prosiect yn un uchelgeisiol sy’n datblygu ar gyflymder anhygoel. Bydd y campws newydd yn enfawr, bron fel ail ddinas”.

Bydd Campws y Bae yn safle academaidd, yn cynnig preswylfeydd i fyfyrwyr, ac yn ofod ar gyfer ymchwil, gyda'r olaf yn rhan o gyfres o gytundebau gyda chwmnïau rhyngwladol a chenedlaethol. Bydd y gwaith datblygu yn parhau tan 2020, ond bydd cyfran helaeth y gwaith wedi'i gwblhau yn ystod y cyfnod cyntaf o adeiladu a bydd ar agor i dderbyn myfyrwyr am y tro cyntaf ym mis Medi 2015.