Prifysgol Abertawe yn arloesi dyfais dadansoddi samplau gwaed 'DIY'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Athro Huw Summers, Cadeirydd Nanodechnoleg Iechyd a Phennaeth y Ganolfan Nanodechnoleg Amlddisgyblaethol (MNC) ym Mhrifysgol Abertawe, yn arwain ymchwil i ddyfais a allai ganiatáu i ddefnyddwyr annhechnegol ddadansoddi samplau gwaed eu hunain, gan chwyldroi'r amser a gymrir rhwng cael sampl a'i hasesu.

Ariennir y prosiect, sy'n cael ei redeg ar y cyd â grŵp ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd dan arweiniad yr Athro Peter Smowton, gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a bydd yn cynhyrchu dyfais a elwir yn "Integrated III-V Haemocytometer", sef dyfais sglodyn dafladwy ar ficroraddfa a yrrir gan gapilarïau i ddadansoddi samplau gwaed i ddefnyddwyr annhechnegol.

Meddai’r Athro Summers, sydd hefyd yn Uwch Aelod Cyswllt o Athrofa Ymchwil yr Ysbyty Methodistaidd yn Houston, Tecsas, "Asesu iechyd dynol drwy ddadansoddi samplau gwaed yw un o'r gweithdrefnau diagnostig meddygol mwyaf cyffredin, gyda miloedd o gleifion yn darparu samplau bob dydd mewn cannoedd o glinigau a meddygfeydd ar draws y DU.

"Fodd bynnag, mae'n broses araf o hyd am fod angen anfon y samplau at nifer cyfyngedig o wasanaethau canolog arbenigol o fewn yr ymddiriedolaethau iechyd, a gall fod diwrnodau rhwng derbyn sampl a'i hasesu. Mae'n ddrud, mewn costau uniongyrchol dadansoddi a chost iechyd y claf yn gwaethygu o ganlyniad i'r oedi cyn derbyn canlyniadau."

 "Mae'r Integrated III-V Haemocytometer yn ddyfais sglodyn dafladwy ar ficroraddfa i ddefnyddwyr annhechnegol sy'n darparu paramedrau diagnostig sefydledig a dealledig.

"Bydd y ddyfais sylfaenol yn cynnwys laserau a datgelyddion wedi'u hintegreiddio o amgylch sianel hylifau i hwyluso cyfrif, gwasgaru a mesuriadau amsugno sy'n ddibynnol ar donfeddi. Bydd hyn yn gwahaniaethu celloedd coch a chelloedd gwyn gwaed, yn gwahaniaethu rhwng y prif fathau o gelloedd gwyn - monosytau, lymffosytau, niwtroffilau a gronyngelloedd - ac yn cyfrif celloedd yn yr is-grwpiau hyn.

"Mae gennym arbenigwyr dadansoddi gwaed yn gweithio ar y prosiect, a bydd cydweithwyr sy'n canolbwyntio ar ymchwil gwrthganser a chylchred celloedd yn rhyngweithio ac yn gwneud y gorau o'r ddyfais sy'n mynd ymhell y tu hwnt i allu profi gwaed ar hyn o bryd."

"Mae'r system ar ficroraddfa yn fanteisiol mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft, mae'n lleihau faint o waed y mae ei angen, gan newid y ffordd y defnyddir diagnosteg ar sail gwaed. Yn yr achos hwn, mae monitro'r cyflwr hematolegol ar unwaith ac yn lled-barhaus yn fwy ymarferol, a gellir ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd acíwt, megis llawdriniaeth neu enedigaeth. Gyda datblygu pellach, cynigia hefyd lwybr realistig i fonitro parhaus ym mywyd pob dydd.

Mae manteision masnachol sylweddol hefyd, ac mae cadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu yn y DU eisoes wedi'i phennu. Meddai'r Athro Summers, "Bydd microwneuthuro lled-ddargludyddion yn caniatáu masweithgynhyrchu systemau rhad, gan symud costau profion gwaed o'r technegydd i git profi a chyflwyno model cost ddosranedig (talu fesul cit) yn hytrach na un buddsoddiad cyfalaf mawr.”