Rhowch Gynnig Arni: Ysgol Haf i ddisgyblion Cymraeg ail iaith

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir Ysgol Haf i ddisgyblion sy’n astudio’r Gymraeg fel ail iaith ym Mhrifysgol Abertawe ar y 3ydd a'r 4ydd o Orffennaf eleni.

Mae’r cwrs preswyl, Rhowch Gynnig Arni, yn rhad ac am ddim ac yn agored i ddisgyblion blwyddyn 12 sydd yn astudio’r Gymraeg fel ail iaith ar gyfer lefel UG.

Mae’r cwrs preswyl dau ddiwrnod a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn gyfle gwych i unigolion adolygu ac ymarfer eu sgiliau ieithyddol ar gyfer Safon Uwch, yn ogystal â chael cyfle i feithrin eu rhuglder a’u hyder a dysgu am fanteision cynhenid astudio’r Gymraeg fel pwnc a gweithio yn y byd proffesiynol maes o law.  

Bydd darlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o Brifysgolion Abertawe, Caerdydd, De Cymru ac Aberystwyth yn cyfrannu at addysgu’r cwrs ac yn trafod y manteisio o astudio’r Gymraeg yn y brifysgol. 

Yn ystod y cwrs preswyl, cynhelir sesiwn holi ac ateb yng nghwmni’r Archdderwydd, Dr Christine James, sy’n Athro Cyswllt yn Academi Hywel Teifi; bydd yr awdures a’r gyflwynwraig, Bethan Gwanas, yn rhoi sgwrs i’r disgyblion am ei llyfrau a’i gwaith ym myd y cyfryngau, ac ar nos Wener, 3 Gorffennaf, bydd y Band Sŵnami yn perfformio’n fyw yng nghanolfan Gymraeg Tŷ Tawe, Abertawe.

Meddai Dr Rhian Jones, arweinydd y cwrs: “Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu’r disgyblion i Abertawe. Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi eu paratoi ar y cyd â phrifysgolion eraill er mwyn rhoi digon o gyfleoedd i’r disgyblion  fwynhau defnyddio’r Gymraeg dros y ddau ddiwrnod a chael blas ar astudio mewn prifysgol.  Y nod yw eu hysgogi i barhau i astudio’r iaith ar ôl gorffen eu cyrsiau Safon Uwch a’u hannog i ddewis y Gymraeg fel pwnc gradd.”

Mae bron i ddeugain o ddisgyblion o ysgolion ledled Cymru eisoes wedi cofrestru i fynychu’r cwrs, a meddai Kayleigh Jones a fynychodd y cwrs preswyl y llynedd: “Cefais amser gwych ar y cwrs preswyl y llynedd. Roedd yn hyfryd i gael y cyfle i ymarfer fy Nghymraeg a chymdeithasu yn y Gymraeg gyda phobl o bob cwr o Gymru. Ar ôl y profiad, penderfynais astudio Cymraeg a Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe ac rwy'n edrych ymlaen at ddechrau'r cwrs ym mis Medi!”.