Symposiwm Ewropeaidd ar Ymddygiad Rhywiol Myfyrwyr: Adlewyrchiadau o Wlad Belg a Chymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Symposiwm Ewropeaidd ar Ymddygiad Rhywiol Myfyrwyr: Adlewyrchiadau o Wlad Belg a Chymru

Dyddiad: Dydd Iau 29ain Hydref,

Amser: 1.30 pm - 4.45pm

Lleoliad: Prifysgol Abertawe, Glyndwr D


Y Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw yw’r astudiaeth gyntaf yn Ewrop i gael ei hariannu i gasglu data sylfaenol ar fyfyrwyr sy’n ymwneud â, neu sy’n ystyried, gwaith rhyw/ymddygiad rhywiol myfyrwyr ar lefel genedlaethol. Bydd y data a gesglir ynghyd gan y prosiect yn mynd gryn lawer o’r ffordd tuag at wella gwybodaeth, ac yn bwysig iawn, bydd yn darparu fframwaith ar gyfer gwella’r systemau sy’n bodoli eisoes ar gyfer cynnig cymorth i fyfyrwyr mewn Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig sy’n ymwneud â gwaith rhyw. I’r perwyl hwn, mae’r prosiect wedi ffurfio cysylltiadau â chydweithwyr yng Ngwlad Belg sydd wedi darparu arbenigedd ar iechyd rhywiol pobol ifanc, modelau o wasanaethau Estyn Allan at weithwyr rhyw, ac ymgynghoriad ar rywoleg glinigol. Mae’r symposiwm yn tynnu’r arbenigedd yma at ei gilydd gan gyflwyno detholiad o bapurau sy’n rhoddi sylw penodol i fyfyrwyr sy’n gwneud gwaith rhyw/ymddygiad rhywiol myfyrwyr.


Agenda

1.30 Dr Ron Roberts, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Seicoleg, Troseddeg a Chymdeithaseg, Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Kingston. 'Penbleth Ymchwilio i Fyfyrwyr sy'n Gwneud Gwaith Rhyw yn y DU'.

1.50 Dr Tracey Sagar, Athro Cysylltiol, Canolfan Gyfiawnder Troseddol a Throseddeg. Coleg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe. 'Canfyddiadau Staff o Waith Rhyw a'r angen am ddatblygu Ymateb Sefydliadol'.

2.10 Luke Kristopher Davis, Myfyriwr Ffiseg, Prifysgol Abertawe. 'Drwy'r lens: Adlewyrchiadau gan Fyfyriwr sy'n Ymwneud ag Adloniant Oedolion'.

2.30 Yr Athro Dr Paul Enzlin, Athrofa Rhyng-gyfadrannol Astudiaethau Teulu a Rhywioldeb, Prifysgol Gatholig Leuven, Gwlad Belg. 'Iechyd rhywiol myfyrwyr: strategaethau atal ac oblygiadau i bolisi'.

3.00 Cwestiynau ac Atebion

3.15 Coffi

3.30 Dr Katrien Symons, Ymchwilydd Cynorthwyol, Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw, Prifysgol Abertawe. 'Ymddygiad Rhywiol a Chymryd Risg'.

3.50 Martine Claeyssens PASOP, Ghent, Gwlad Belg. 'Gwaith estyn allan/gwaith gyda Phrifysgolion?'

4.10 Sam Geuens Ysbyty Cyffredinol Herentals, Gwlad Belg. 'Therapi Seicorywiol i fyfyrwyr sy'n gwneud gwaith rhyw, ymagweddiad sy'n ffocysu ar atebion'

4.30 Cwestiynau ac Atebion

4.45 Gorffen


Mae'r digwyddiad hwn am ddim a bydd o ddiddordeb i academyddion, gwasanaethau cymorth mewn Prifysgolion, ymarferwyr allanol, llunwyr polisi a myfyrwyr sy'n gweithio mewn adloniant oedolion neu'n ymwneud â gwaith rhyw.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, e-bostiwch ccjc-sswp@swansea.ac.uk.

Cynhelir y Symposiwm gan Brosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw www.thestudentsexworkproject.co.uk, Canolfan Gyfiawnder Troseddol a Throseddeg, Coleg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe.