Symposiwm Prifysgol Abertawe’n archwilio pryderon ynghylch y defnydd o’r rhyngrwyd gan derfysgwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gyda’r twf cyflym mewn gweithgarwch ar-lein, mae pryderon wedi codi ynghylch y defnydd o’r rhyngrwyd gan derfysgwyr, gan gynnwys ar gyfer radicaleiddio, propaganda, hyfforddi, cyllid a seiber-ymosod.

Yn ddiweddar cynhaliwyd symposiwm 2 ddiwrnod ym Mhrifysgol Abertawe a archwiliodd y pwnc “Defnydd Terfysgwyr o’r Rhyngrwyd”. Daeth arbenigwyr o ledled y byd ynghyd i drafod y pwnc perthnasol hwn yng Ngholeg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe.

Gwnaeth y digwyddiad ddod ag ymchwilwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau at ei gilydd i archwilio nifer o bynciau o bwys, gan gynnwys:

·         Sut mae grwpiau terfysgwyr yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y defnydd o Twitter gan al-Shabaab yn ystod ymosodiad Westgate yn Nairobi

·         Y defnydd o’r Rhyngrwyd ar gyfer radicaleiddio a recriwtio, gan gynnwys archwilio adroddiadau gan derfysgwyr ar-lein a strategaethau ar gyfer atal y rhain  

·         Y posibilrwydd y gallai terfysgwyr lansio seiber-ymosodiadau ar wasanaethau a seilwaith hanfodol, a’r sylw a roddwyd i hyn mewn trafodaethau gwleidyddol  

·         Defnyddio seiber-wyliadwriaeth a gwyliadwriaeth ddata, ac effaith y rhain ar hawliau dynol a phreifatrwydd  

·         Cydweithredu rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus a strategaethau ar gyfer cyfoethogi’r bartneriaeth hon.

Noddwyd y symposiwm ar y cyd gan Swyddfa UDA ar gyfer Ymchwil Forol Fyd-eang a Phrifysgol Curtin, Awstralia. Mynychodd Dr Anne Aly o Brifysgol Curtin y symposiwm a chyflwynodd ei gwaith ar adroddiadau terfysgaeth a gwrthderfysgaeth. Meddai:

" Tynnodd y symposiwm sylw at y lefel o ddiddordeb amrywiol a rhyngwladol yn y berthynas gymhleth rhwng terfysgaeth a thechnoleg. Roedd yr ystod o siaradwyr a phynciau’n rhychwantu’r amrediad o ddulliau caled a meddal o drin y ffenomenon hon o sut mae terfysgwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd i ledaenu propaganda i gwestiynau ynghylch cyfreithlondeb gwyliadwriaeth a chasglu data. Yn bwysig, gwnaeth arddangos sut mae ymchwil yn y maes hwn o gwmpas y byd yn cydgysylltu, gyda siaradwyr yn dod nid yn unig o Ewrop a’r Deyrnas Unedig, ond hefyd o mor bell â Chanada ac Awstralia".

Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad oedd yr Athro Ymchwil o fri yr Athro Martin Rudner a’r Uwch Gymrawd  Angela Gendron, sydd ill dau o Brifysgol Carleton, Canada. Dywedon nhw:

"Roedd y symposiwm yn ddigwyddiad o bwys mawr yn fyd-eang o ran dadansoddi defnydd o’r Rhyngrwyd gan derfysgwyr. Ymhlith y cyfranogwyr oedd academyddion blaenllaw, arbenigwyr o’r llywodraeth, gorfodi’r gyfraith, sefydliadau ymchwil a’r sector preifat o ar draws y DU, Awstralasia, Ewrop a Gogledd America a ddaeth i adrodd ar ganfyddiadau ymchwil a datblygiadau polisi. Tynnodd y symposiwm sylw at rôl arweiniol Prifysgol Abertawe wrth hyrwyddo’r broses o adeiladu gwybodaeth a rhannu gwybodaeth yn rhyngwladol yn ymwneud â materion sieberderfysgaeth, radicaleiddio, diogelwch isadeiledd hanfodol a diogelwch y cyhoedd  ". 

Llun: Llun grŵp o siaradwyr y symposiwm. 

Terrorism Symposium

 

 

 

 

 

Dyma restr o’r siaradwyr yn y symposiwm, a gynhaliwyd ar y 5ed a’r 6ed o Fehefin yng Ngholeg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe:

  • Dr Anne Aly (Prifysgol Curtin, Awstralia)
  • Clovis Meath Baker (y Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol, y DU
  • Yr Athro Karine Bannelier (Prifysgol Grenoble, Ffrainc)
  • Sergei Boeke (Prifysgol Leiden, yr Iseldiroedd)
  • Dr Madeline Carr (Prifysgol Aberystwyth, y DU)
  • Yr Athro Thomas Chen (Prifysgol y Ddinas, y DU)
  • Dr Maura Conway (Prifysgol Dinas Dulyn, Iwerddon)
  • Angela Gendron (Prifysgol Carleton, Canada)
  • Dr Stuart Macdonald (Prifysgol Abertawe)
  • David Mair (Prifysgol Abertawe)
  • Lella Nouri (Prifysgol Abertawe)
  • Yr Athro Martin Rudner (Prifysgol Carleton, Canada)
  • Dr Inge Marie Sunde (Coleg Prifysgol Heddlu Norwy)
  • Ünal Tatar (Sefydliad Seiberddiogelwch Cenedlaethol Twrci)
  • Andrew Whiting (Prifysgol Abertawe)