Timoedd staff a myfyrwyr yn cefnogi abseil Nadolig elusennol yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae deuddeg tîm o Brifysgol Abertawe wedi cymryd rhan mewn abseil elusennol yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, gan helpu i godi arian tuag at ddwy elusen a sefydlwyd yn Abertawe i ariannu addysg a gofal plant difreintiedig yn Affrica.

Charity abseil

Cymerodd timoedd staff a myfyrwyr ran yn y digwyddiad i gefnogi’r elusennau SOS Africa ac Abertawe-Siavonga. Graddiodd sylfaenydd SOS Africa, Matt Crowcombe, o Brifysgol Abertawe ym mis Ionawr ar ôl cwblhau’i gymhwyster PhD. Sefydlwyd Abertawe-Siavonga gan Christine Watson MBE o Brifysgol Abertawe.  

Daeth dros 100 o bobl, llawer ohonynt mewn gwisgoedd Nadoligaidd, at ei gilydd i ffurfio cyfanswm o 17 o dimoedd rhwng 4 a 60 mlwydd oed i gwblhau’r abseil 120 troedfedd dan oruchwyliaeth hyfforddwyr o Cheddar Climbing Caving.

Hyd yma codwyd £7,000 ond mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd y cyfanswm terfynol yn cyrraedd £10,000 erbyn y dyddiad cau ar gyfer codi arian am 6pm ar 11 Ionawr 2015.  Rhennir yr arian yn gyfartal rhwng y ddwy elusen a bydd y tîm sy’n codi’r mwyaf yn ennill dau docyn awyren i weld ein prosiectau ar waith yn Affrica.

Swansea abseil Meddai Sylfaenydd SOS Africa, Matt Crowcombe: "Dangosodd staff a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a’r gymuned leol gefnogaeth enfawr.  Roedd yn benwythnos i’w gofio gyda llawer o eiliadau ysbrydoledig o ddewrder a haelioni.  Fy hoff ran oedd gwylio Tamzin, sy’n bedair blwydd oed, yn cyd-abseilio gyda’i thad John brynhawn dydd Sul.

“Hoffwn ddiolch i Gyngor Abertawe am ganiatáu i ni gynnal y digwyddiad hwn yn y Ganolfan Ddinesig ac i’r holl staff am ein cynorthwyo ni. Rydym yn gobeithio trefnu digwyddiad abseilio hyd yn oed fwy o fewn y Brifysgol yn y dyfodol.”

 Andrea's angelsMeddai Christine Watson, M.B.E, rheolwr Discovery, sefydliad gwirfoddoli myfyrwyr Prifysgol Abertawe:  “Roedd hwn yn ddigwyddiad anhygoel lle gwnaeth pobl wynebu eu hofnau i helpu plant difreintiedig yn Affrica, drwy ein dau brosiect. Cymerodd llawer o wirfoddolwyr Discovery ran yn y cefndir hefyd yn ogystal â’r rhai hynny a wnaeth y sialens fawr o abseilio’r tŵr 120 troedfedd  - a diolchaf iddynt am eu hymrwymiad a’u dewrder. Daeth y timoedd mewn gwisgoedd ffansi gwych i gefnogi pobl ac mae’r codi arian yn parhau o hyd. 

“Lansiodd Partneriaeth Abertawe Siavonga ei chynllun ysgoloriaethau yn 2013 a bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant yn Siavonga, Sambia. Hoffwn ddiolch hefyd i brosiect SOS Affrica am ffurfio partneriaeth gyda ni ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiadau mwy fyth gyda’n gilydd yn y dyfodol.”

I roi ewch i https://www.justgiving.com/teams/SwanseaCivicCentreAbseil