Y Brifysgol yn lansio'r cwrs meistr a addysgir Gwyddor Data Iechyd cyntaf yn Ewrop

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Y cwrs MSc Gwyddor Data Iechyd newydd, a gynlluniwyd gan dîm addysgu Gwybodeg Iechyd Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe, yw'r cyntaf yn Ewrop i gynnig cwrs pwrpasol i bobl y maent yn gweithio ym maes gofal iechyd.

Cynlluniwyd y cwrs ôl-raddedig yn arbennig ar gyfer pobl mewn rolau sy'n cynnwys dadansoddi data a chyfrifiadurwyr â phrofiad o weithio â data o'r parth gofal iechyd, yn ogystal â pheirianwyr biofeddygol a phobl mewn swyddi tebyg.

Caiff yr MSc Gwyddor Data Iechyd ei lansio yn Strata + Hadoop World EU 2014 ym Marselona, o 19 i 21 Tachwedd, lle mae penderfynwyr busnes, strategwyr, penseiri, datblygwyr a dadansoddwyr mwyaf dylanwadol data mawr yn cwrdd i lunio dyfodol eu busnesau a'u technolegau. Mae Gwyddor Data Iechyd yn arbenigedd amlddisgyblaethol sy'n cynnwys defnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) gyda data a geir o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys data cleifion, systemau meddyg teulu a Data Mawr yn gyffredinol. Mae gan Wyddor Data Iechyd y potensial i helpu i strwythuro busnes gofal iechyd yn fwy effeithiol o gwmpas canlyniadau, a gallai drawsffurfio arferion meddygaeth.

Mae'r rhaglen gradd meistr a addysgir amser llawn un flwyddyn mewn Gwyddor Data Iechyd (tair blynedd o astudio rhan-amser) wedi'i chynllunio i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sy'n ofynnol i Wyddonydd Data Iechyd. Mae darpariaeth y rhaglen yn cydbwyso'r cysyniadau damcaniaethol hanfodol â phwyslais cryf ar waith ymarferol gan fyfyrwyr i sicrhau dealltwriaeth drylwyr o faterion allweddol pob pwnc.

Mae'r modiwlau arfaethedig yn amrywio o Wyddor Data Iechyd a Chyfrifiadura Gwyddonol mewn Gofal Iechyd, Trin Data Iechyd, Cymwysiadau Dysgu Peiriannau mewn Gofal Iechyd a Delweddu Data Iechyd i Ddadansoddi Data Iechyd Cysylltiedig.

Mae'r Cwrs hwn wedi'i leoli yng Nghanolfannau Rhagoriaeth arobryn Data Gweinyddol ac Ymchwil e-Iechyd Prifysgol Abertawe, a dyfarnwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a'r Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) yn y DU. Caiff ei ddarparu ar y cyd â staff blaenllaw o Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Prifysgol Gorllewin.

Mae'r MSc mewn Gwyddor Data Iechyd bellach yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd am astudio o fis Medi 2014.

Am ragor o wybodaeth am yr MSc Gwyddor Data Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i www.swansea.ac.uk/postgraduate/taught/medicine/msc-health-data-science neu cysylltwch ag Athanasios Anastasiou, darlithydd Gwyddor Data Iechyd a Thiwtor Derbyn, drwy e-bostio a.anastasiou@abertawe.ac.uk.