Y Frenhines yn anrhydeddu gwirfoddolwyr prysur y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mar grŵp myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill y wobr uchaf y gellir ei rhoi i elusen – Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.

Derbyniodd cynrychiolwyr Grŵp Gwirfoddolwyr Darganfod y wobr ar ddydd Gwener, 17 Hydref gan Uwch Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mr D. Byron Lewis.

Dyma uchafbwynt blwyddyn wych i'r 300 o fyfyrwyr sy'n rhoi eu hamser am ddim i Darganfod. Mae'r grŵp hefyd wedi ennill gwobr Busnesau sy'n Cefnogi Gwirfoddoli yng Ngwobrau Bae Abertawe a marc ansawdd Chwarae Teg Cenedl Hyblyg, sy'n cydnabod agweddau gwych at arferion a chyfleoedd cyfartal.

Yn ogystal, daeth rheolwr Darganfod, Christine Watson, yn MBE yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd am eu gwasanaethau i addysg a gwirfoddoli ymhlith myfyrwyr, a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Mary Williams Prifysgol Abertawe hefyd, sy'n cydnabod cefnogi datblygiad gyrfaol pobl eraill.

Sefydlwyd elusen Darganfod ym 1966. Y llynedd cofnododd 3,910 o oriau gwirfoddol yn gwasanaethu pobl Abertawe.

Bob blwyddyn mae oddeutu 300 o fyfyrwyr yn gwirfoddoli ar draws 25 o brosiectau yn helpu pobl hŷn; plant ac oedolion anabl; pobl ddigartref; pobl â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys dementia; a ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Discovery QAVSMaent hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol ymarferol, megis garddio ac addurno, rhedeg canolfan fwyd gydweithredol a glanhau'r traeth. Mae oddeutu 2,000 o bobl wedi elwa o waith Darganfod dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Darganfod hefyd yn cynnal rhaglen haf yn Sambia, sef Partneriaeth Abertawe a Siavonga, gyda myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol o'r ddau le yn gweithio i wella addysg ac iechyd ac i fynd i'r afael â thlodi. Mae'r Rhaglen wedi cael effaith ar fwy na 500 o gartrefi yn Siavonga.

Meddai Mrs Watson, "Rwy'n hynod falch bod gwaith caled grŵp Darganfod wedi'i wobrwyo gan y wobr nodedig hon. Mae Darganfod yn sefydliad ysbrydoledig sy'n ysgogi'r rhai sy'n buddsoddi ynddo.

"Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda myfyrwyr Prifysgol Abertawe dros yr ugain mlynedd diwethaf yn fawr, gan adeiladu ar eu syniadau a'u brwdfrydedd wrth iddynt roi eu hamser rhydd er budd pobl ddifreintiedig yma yn Abertawe, a thros y pedair blynedd diwethaf, er budd menywod a phlant pentrefi sy’n byw mewn tlodi yn Siavonga."

Meddai Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiadau Allanol a Chyflogadwyedd, yr Athro Hilary Lappin-Scott, "Mae hon wedi bod yn flwyddyn gyffrous i Darganfod. Cafodd gwaith ein myfyrwyr ymroddedig ei gydnabod gan y Frenhines drwy'r wobr fawreddog hon, ac ar ben hynny enillodd Christine MBE am ei rôl fel y rheolwr.

"Mae'r Brifysgol yn hynod falch o dderbyn y wobr hon. Mae'r cyfleoedd yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ac yn rhoi hyder, sgiliau a gwerthoedd iddynt y byddant yn eu cadw yn y gymuned ac mewn cyflogaeth yn y dyfodol."

Mae prosiectau Darganfod yn cynnwys:

  • Darparu gweithgareddau a chefnogaeth i blant a phobl ifanc â nam ar y clyw; ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig; ac o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid a cheisiwr lloches
  • Addysgu pobl ifanc ag anableddau i syrffio
  • Bod yn gynorthwywyr ystafell ddosbarth yn Ysgol Arbennig Pen-y-Bryn
  • Garddio ac addurno i bobl ifanc nad ydynt yn gallu gwneud hynny eu hunain
  • Darparu cynnyrch ffres i fyfyrwyr a staff y Brifysgol yn y ganolfan fwyd gydweithredol
  • Codi sbwriel ar y traeth ac yng Nghoed Cwm Penllergaer
  • Addysgu sgiliau syrcas i blant gyda Circus Eruption
  • Darparu gweithgareddau a chefnogaeth i oedolion ag anableddau dysgu neu sy'n byw ag anaf i'r ymennydd neu ddementia
  • Helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid i wella'u Saesneg
  • Cefnogi ffrindiau a theulu carcharorion
  • Cynnal gweithgareddau cymdeithasol a chreadigol i bobl â phroblemau iechyd meddwl
  • Coginio i geiswyr lloches amddifad