Ymchwil newydd yn awgrymu y gallai arferion rhianta cynnar niweidio bwydo ar y f

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil cydweithredol newydd rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Newcastle yn dangos bod mamau sy’n dewis dilyn arferion rhianta llym o ran cwsg a bwydo yn ystod babandod cynnar yn llai tebygol o fwydo eu babi ar y fron neu i stopio yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf.

Baby feeding research Archwiliodd Dr Amy Brown o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe a  Dr. Bronia Arnott o’r Sefydliad Iechyd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Newcastle y berthynas rhwng ymddygiad rhianta cynnar a hyd y cyfnod bwydo ar y fron. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar 508 o famau â babi o dan flwydd oed, gan edrych ar ymddygiad megis defnyddio arferion ar gyfer cysgu a bwydo, credoau am ymateb yn gyflym pan fydd eu babi’n llefain, teimlo’n bryderus am eu babi, a hyd y cyfnod bwydo ar y fron. Gwnaeth yr ymchwilwyr ganfod bod mamau a nododd eu bod wedi dewis dull ymatebol ar gyfer rhianta cynnar, gan ddilyn arwyddion y babi am fwydo a chysgu a chan ymateb yn gyflym pan fydd y babi’n llefain, yn llawer mwy tebygol o ddechrau bwydo ar y fron ac i barhau i wneud hynny. Ar y llaw arall, canfuwyd bod mabwysiadu arferion llym yn gysylltiedig â rhoi’r gorau i fwydo ar y fron yn yr ychydig wythnosau cyntaf.

Medai Dr Brown: “Mae llawer o dueddiadau mewn magu plant sy’n annog rhieni newydd i ddilyn arferion ar gyfer cwsg neu fwydo neu i beidio ag ymateb yn gyflym pan fydd eu baban yn llefain ond nid yw effaith hyn ar ddatblygiad babanod wedi’i harchwilio hyd yma. Mae’n bosib bod rhieni’n credu y gallai gadw at batrwm annog babanod i gysgu’n hirach neu fod yn fwy llonydd ond prin iawn yw’r ymchwil i gefnogi’r awgrymiadau hyn. Ein data yw’r cyntaf i ddangos y gallai dilyn arferion rhianta llym fod yn anghydnaws â bwydo ar y fron neu annog mamau i beidio â gwneud hynny”.  

Meddai Dr. Arnott: “Rydym yn gwybod mai’r ffordd orau o sefydlu bwydo ar y fron yw trwy ddefnyddio dull a arweinir gan y baban lle caiff babanod eu bwydo ar gais. Gallai defnyddio arferion llym ar gyfer cwsg neu fwydo, neu beidio â chadw’r baban yn agos olygu y caiff arwyddion am fwydo eu colli a bod y cyflenwad llaeth yn cael ei effeithio. Gallai hyn olygu fod mamau yn meddwl nad ydynt yn cynhyrchu digon o laeth a bod angen iddynt roi fformiwla hefyd neu stopio bwydo ar y fron yn llwyr.  

Ychwanegodd Dr Arnott: “Mae rhai mamau’n credu y dylent ddilyn arferion mor llym er mwyn i’w babi gysgu trwy gydol y nos neu er mwyn i’w babi fod yn ‘fabi da’ sydd yn ‘llonydd’, ond mae’n normal ac yn iach i fabi ddeffro yn aml ac eisiau i rhywun ei ddal e.”

Ychwanegodd Dr. Brown sydd hefyd yn Gyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Iechyd Cyhoeddus Plant ‘Mae ein canfyddiadau’n arwyddocaol gan eu bod yn awgrymu y gallai arferion a arweinir gan y rhiant effeithio ar lwyddiant a parhad bwydo ar y fron. Dylai rhieni newydd fod yn ymwybodol nad yw’r rhan fwyaf o athroniaethau rhianta sy’n annog defnyddio arferion llym ac annibyniaeth babanod wedi’u profi’n wyddonol  a gallent fod yn anghydnaws â bwydo ar y fron. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod y gall ofalu am faban newydd-anedig fod yn flinedig iawn. Mae angen gwneud mwy o ymchwil i archwilio canlyniadau arferion ac ymddygiadau rhianta ac i ddeall y ffordd orau y gall gweithwyr iechyd proffesiynol gefnogi mamau newydd ar yr adeg hon.’

Cyhoeddwyd yr ymchwil yn Plos One ac mae ar gaeyma yma