Ymchwil newydd yn datgelu bod macacos benywaidd cymdeithasol yn teimlo llai o straen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod mwncïod macacos benywaidd sy'n treulio llawer o amser yn rhyngweithio a chymdeithasu â macacos eraill yn teimlo dan lai o bwysau.

Macaque researchDarganfu Dr Ines Fürtbauer, Cymrawd Ymchwil DFG yn Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe, a'i chydweithwyr yn Göttingen, yr Almaen, fod gan y macacos Asamaidd yng Ngwlad y Thai sy'n treulio llawer o amser yn gymdeithasol gyda gwrywod a benywod lai o hormonau straen. Cyhoeddir yr astudiaeth yn Psychoneuroendocrinology.

Mae effeithiau cadarnhaol clymau cymdeithasol cryf yn adnabyddus ymhlith bodau dynol ac anifeiliaid anddynol. Mae pobl sydd â rhwydwaith mwy o ffrindiau, er enghraifft, yn byw'n hwy. Mae babwniaid cymdeithasol yn byw'n hwy, ac ar ben hynny mae eu hepil yn fwy tebygol o oroesi hefyd. 

Cynhaliodd Dr Fürtbauer yr ymchwil yng Ngwarchodfa Natur Phu Khieo yng Ngwlad y Thai fel rhan o'i hymchwil ôl-ddoethurol, Evolution of Social Behaviour, gyda Chanolfan Ymchwil Courant yn Göttingen. Arsylwodd Dr Fürtbauer berthnasoedd cymdeithasol y macacos benywaidd a chasglodd samplau ysgarthol, yna mesurodd lefelau'r hormonau straen yn y samplau hyn.

Female macaque interaction

Meddai Dr Fürtbauer, "Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau sy'n archwilio effaith cymdeithasoldeb ar lefelau straen ffisiolegol wedi canolbwyntio ar berthnasoedd rhwng benywod yn bennaf. Y peth cyffrous oedd bod rhyngweithiadau'r macacos benywaidd â gwrywod a benywod yn cael effaith gadarnhaol ar lefelau hormonau straen.

"Yn ystod y tymor paru, pan fo cymdeithasu â gwrywod yn hollbwysig, roedd lefelau hormonau straen y benywod yn uwch wrth gymdeithasu llai â gwrywod. Yn ystod gweddill y flwyddyn, pan fo rhyngweithiadau â gwrywod yn llai pwysig, roedd cymdeithasu â benywod eraill yn achosi lefelau is o hormonau straen."

Cred Dr Fürtbauer y gallai'r gostyngiad yn lefelau'r hormonau straen y mae'r benywod yn ei brofi pan fyddant yn fwy cymdeithasol weithredu fel adborth cadarnhaol, gan atgyfnerthu'r perthnasoedd cymdeithasol hyn, a allai achosi manteision iechyd neu atgenhedlol.

Yn ddiddorol, ymhlith bodau dynol, dangoswyd yn ddiweddar bod y duedd ryweddol o ran dewis perthnasoedd menywod yn amrywio ar hyd oes. Pan fo menywod yn ifanc, mae'n well ganddynt dreulio amser gyda menywod eraill, yna maent yn newid o berthnasoedd o'r un rhyw i berthnasoedd â'r rhyw arall yn ystod cyfnod atgenhedlol actif eu bywyd, yna'n ôl i berthnasoedd o'r un rhyw pan maent oddeutu 50 oed.