Ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi adroddiad ar yr heriau sy'n wynebu cynulleidfaoedd byddar a thrwm eu clyw yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw (25 Tachwedd) cyhoeddodd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe adroddiad ‘Teledu Digidol a Chynulleidfaoedd Byddar/ Trwm eu Clyw’, sydd yn ymchwilio i'r rhwystrau cyfathrebu sy’n wynebu cynulleidfaoedd byddar a thrwm eu clyw ers y newid i ddigidol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd yr adroddiad yn y Senedd o dan arweiniad Ann Jones AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar.

Mae'r adroddiad wedi galw am fwy i gael ei wneud er mwyn sicrhau bod y cyfleoedd sydd yn bosibl oherwydd y newid i'r digidol yn cael eu defnyddio i’w llawn potensial, a hynny er mwyn sicrhau profiad gwylio cadarnhaol i gynulleidfaoedd byddar a thrwm eu clyw yng Nghymru.

Digital Television and Deaf/Hard of Hearing Audiences in WalesCafodd yr ymchwil ei wneud gan Dr Yan Wu, Uwch Ddarlithydd Cyfryngau, Dr Elain Price, Darlithydd Cyfryngau, a Leighton Evans, ymchwilydd ôl-ddoethurol o Brifysgol Abertawe. Roedd y prosiect ymchwil wedi’i lleoli yn Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe, a chafodd ei ariannu gan gronfa Bridging the Gaps, Action on Hearling Loss Cymru, BBC Cymru, S4C a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Amlygodd yr astudiaeth mai is-deitlau yw'r arf hwyluso pwysicaf i bobl fyddar a thrwm eu clyw yn eu dealltwriaeth o raglenni teledu. Mae problemau cyffredin sy'n gysylltiedig ag ansawdd sain ac is-deitlau yn effeithio ar y gynulleidfa ehangach yn ogystal â chynulleidfaoedd byddar neu sydd â nam ar eu clyw. Fodd bynnag, ar gyfer cynulleidfaoedd byddar neu drwm eu clyw, lle mae nifer sylweddol yn dibynnu ar gymhorthion clywed digidol (68%) a hefyd darllen gwefusau (tua un rhan o dair), mae'r galw am well ansawdd sain a gwasanaeth is-deitlo gwell yn fwy difrifol.

Mae'r argymhellion allweddol a wnaed yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • dylai staff darlledu cyhoeddus yn ogystal â chynhyrchwyr rhaglen fasnachol dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth wedi'i achredu ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw.
  • dylai canllawiau Ofcom ar ansawdd is-deitlau yn cael eu gweithredu ymhellach.
  • mae angen ymgyrch ymwybyddiaeth i helpu cynulleidfaoedd byddar a thrwm eu clyw i ddeall yr ystod lawn o wasanaethau rhyngweithiol ar gael ar y llwyfan teledu digidol.
  • dylai darlledwyr ystyried yr anghenion a nodwyd gan bobl sy'n fyddar a thrwm eu clyw ar gyfer is-deitlau iaith Cymraeg.

Meddai Dr Elain Price: “Ers y newid i ddigidol, mae cynulleidfaoedd teledu yng Nghymru wedi cael mwy o ddewis o raglenni, yn ogystal â ffyrdd newydd o gael gafael ar wybodaeth, addysg ac adloniant trwy sawl platfform. Serch hynny, mae’n adroddiad yn awgrymu bod cynulleidfaoedd byddar a thrwm eu clyw yn wynebu sawl her cyfathrebu wrth wylio teledu digidol.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn gyfeiriad defnyddiol i ddarlledwyr cyhoeddus, llunwyr polisi, a’r gymuned  fyddar a thrwm eu clyw yn gyffredinol". 

Meddai Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru: “Mae pobl sydd â nam ar eu clyw yng Nghymru yn dibynnu ar is-deitlo er mwyn cael mynediad cyfartal i wasanaethau teledu. Bu rhai gwelliannau i'r is-deitlau, ond mae digon o waith i'w wneud er mwyn sicrhau bod yr un o bob pump o bobl sydd â nam ar eu clyw yng Nghymru yn cael mynediad cyfartal i deledu.

"Rydym yn gobeithio y bydd darlledwyr yn cymryd camau gweithredu i wella ansawdd is-deitlo o ganlyniad i'r farn gref sydd yn yr adroddiad hwn, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sianelau teledu yng Nghymru er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd."

Ychwanegodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar: “Mae hon yn astudiaeth gynhwysfawr a phwysig er mwyn sicrhau bod pobl fyddar yn cael eu cynnwys ym maes darlledu. Mae llawer o bobl fyddar yn aml yn dweud wrthym nad oes digon o ddarpariaeth ar eu cyfer, ac rwyf am weld hynny’n newid".