Yn barod, gan bwyll – rhwyfwch! Abertawe’n barod am nawfed Ras Gychod Farsity Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y nawfed Ras Gychod Farsity, rhwng Clybiau Rhwyfo Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn Ebrill 5 ar Afon Taf yng Nghaerdydd.

Welsh Varsity RowingYn y ras gychod flynyddol, a sefydlwyd yn 2006, bydd myfyrwyr o ddwy Brifysgol rwyfo bennaf Cymru’n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y frwydr am deitl Pencampwyr Ras Gychod Farsity Cymru.

Bydd pedair ras rhwng wythawdau yn cael eu rhwyfo yn ystod y dydd, gan ddechrau gyda ras VIII Nofis y Menywod a ras VIII Nofis y Dynion (ar gyfer y rhai hynny yn eu blwyddyn rwyfo gyntaf) am 12.25pm ac 1:25 yn y drefn honno, gyda VIII Cyntaf y Menywod Hŷn am 2:25pm, ac yn gorffen gyda'r ras fawr rhwng VIII Cyntaf y Dynion Hŷn am 3:25pm.

Caiff y rasys eu rhwyfo ar rannau isaf Afon Taf, o Bont Ffordd Penarth i Fae Caerdydd, dros bellter o oddeutu dau gilometr. Mae’r mannau gorau i bobl wylio’r  rasys yn cynnwys Pont ac Arglawdd Ffordd Clarence ac wrth y llinell orffen ger Canolfan Channel View ar Ffordd Jim Driscoll, Bae Caerdydd.

Welsh Varsity Rowing Captains 2014Meddai Phoebe Wright, Llywydd Clwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe: "Mae'r gystadleuaeth rhwng y ddau glwb i fod yn Bencampwyr Ras Gychod Farsity Cymru bob amser yn ddwys - ac ni fydd hynny'n wahanol eleni.

“Bu’r timoedd yn hyfforddi’n galed ar gyfer y digwyddiad hwn ac mae’r Ras Gychod yn addo darparu dydd gwefreiddiol o rasio i gystadleuwyr ac i gynulleidfaoedd fel ei gilydd.

“Y llynedd gwnaeth Caerdydd, a oedd yn rasio ar ddŵr cartref, ennill pob un o’r pedair ras, ond bu sgwadiau Abertawe’n hyfforddi am ddigon o oriau ar y dŵr ac yn y gym felly byddant yn ymladd yn galed i drechu’r pencampwyr presennol ar Ebrill y 5ed.”

Mae Ras Gychod Faristy Cymru, a gefnogir gan Rwyfo Cymru (corff llywodraethu rhwyfo yng Nghymru), yn dathlu dechrau gemau Farsity blynyddol Cymru.

Welsh Varsity 2014 logoY gemau yw’r digwyddiad chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru a’r ail gemau Farsity mwyaf ym Mhrydain, y tu ôl i Rydychen a Chaergrawnt.

Cynhelir y rhan fwyaf o gemau Faristy Cymru ddydd Mercher, 9 Ebrill, gan orffen gyda’r Gêm Rygbi yn Stadiwm y Mileniwm, yn dechrau am 7:30pm.  Ceir amserlen eleni yma http://www.swansea.ac.uk/cy/swyddfar-wasg/archif-newyddion/2014/farsityndodynolirliberty.php.

Dilynwch Glwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe ar Twitter @SwanseaUniRC; Ras Gychod Farsity Cymru 2014 ar Twitter @WelshBoatRace; ac am fwy o wybodaeth am Farsity Cymru 2014 ewch i http://www.swansea.ac.uk/varsity/.