Boddhad myfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Abertawe ar i fyny

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gyda mwy na 2,500 o fyfyrwyr ôl-raddedig, mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi bod lefelau boddhad ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a'r rhai a addysgir yn cynyddu.

Mae canlyniadau diweddaraf arolygon profiad myfyrwyr yr Academi Addysg Uwch yn dangos gwelliant parhaus ar draws y Brifysgol, gyda chyfradd boddhad o 89% ymhlith myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir (6% yn uwch na chyfartaledd y DU) a chyfradd o 83% ymhlith myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig (1% yn uwch na chyfartaledd y DU).     

Arolwg Profiad Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

·         Boddhad cyffredinol wedi cynyddu 3 phwynt canran i 83%

·         Boddhad â'r Diwylliant Ymchwil wedi cynyddu 5 pwynt canran

·         Boddhad â Chynnydd wedi cynyddu 4 pwynt canran

·         Boddhad â Goruchwyliaeth wedi cynyddu 3 phwynt canran

Arolwg Profiad Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir

·         Boddhad cyffredinol wedi cynyddu 3 phwynt canran i 89%

·         Boddhad ag Asesu ac Adborth wedi cynyddu 7 pwynt canran

Boddhad â Threfniadaeth a Rheolaeth wedi cynyddu 5 pwynt canran

Meddai'r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“ Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud, felly rwyf wrth fy modd yn gweld ein bod wedi cynyddu ein lefelau uchel o foddhad ymhlith myfyrwyr.

"Mae'r canlyniadau hyn yn deyrnged go iawn i'r gwaith caled sy'n cael ei wneud ar draws y sefydliad i wella profiad ein holl fyfyrwyr. Mae hefyd yn adlewyrchu diwylliant y sefydliad, sy'n gwerthfawrogi pob un o'n myfyrwyr.

"Mae data'r arolygon hyn yn caniatáu i sefydliadau gymharu eu darpariaeth ôl-raddedig ag eraill yn y sector, yn genedlaethol a fesul sefydliad ac adran. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i nodi meysydd cryfder, yn ogystal ag ystyried sut gellir newid addysgu er mwyn gwella deilliannau i fyfyrwyr."

 http://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/diwrnodagored