Canolfan Ymchwil Gymdeithasol Newydd i Gymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae canolfan ymchwil gymdeithasol newydd wedi ei hagor ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ei lansio'n swyddogol heddiw gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt AC, mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe heddiw (dydd Llun, 23 Mawrth 2015).

ADRC Wales launchMae Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, a arweinir gan Goleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn un o bedair canolfan sy'n rhan o'r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol - isadeiledd data a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Gan weithredu ar draws y DU, bydd yn hwyluso mynediad i ddata gweinyddol gyda'r manylion personol wedi'u tynnu ymaith, at ddibenion cefnogi ymchwil economaidd a chymdeithasol a allai arwain at fuddion cymdeithasol.

Bydd Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru'n gweithio gydag ymchwilwyr achrededig er mwyn cysylltu a hwyluso mynediad i ddata heb fanylion personol am themâu megis addysg, iechyd a data symudedd cymdeithasol, yn ogystal â llawer o gofnodion hirsefydlog eraill gan adrannau gwahanol y llywodraeth.

Nod y canolfannau yw hwyluso ymchwil drwy ddefnyddio data cysylltiedig, heb fanylion personol, mewn modd diogel a chyfreithlon sy'n parchu preifatrwydd unigolion ar bob adeg, er mwyn ymgymryd ag ymchwil sy'n gallu darparu sylfaen dystiolaeth gadarn i alluogi gwneuthurwyr polisi i benderfynu ar y ffordd orau o fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion cymhleth mewn meysydd cymdeithasol, economaidd, amgylchedd ac iechyd.

Meddai'r Athro David Ford, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru: "Ni waeth ym mha ran o'r DU rydych chi'n byw, mae'n sicr bod ein cymdeithas yn newid yn gyflym. Mae pawb am fyw mewn byd teg a chefnogol a mwynhau safon bywyd dda. Ond mae hanes wedi dangos bod hwn yn uchelgais sy'n anodd ei wireddu. Peth cymhleth iawn yw cymdeithas ac mae'n newid drwy'r amser. Un fantais sydd gennym dros y cenedlaethau blaenorol yw bod gennym amrywiaeth anferth a chynyddol o ddata sy'n gallu helpu i esbonio sut mae cymdeithas fodern yn gweithio, ac y gellir ei ddefnyddio i asesu effeithiau'r newidiadau hynny.

"Mae Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, a fydd yn gweithio gydag academyddion ledled Cymru a'r DU, yn fenter newydd wych a fydd yn gweddnewid y ffordd rydym yn defnyddio data i wella'n cymdeithas. Drwy adeiladu ar ein henw cydnabyddedig am ddefnyddio data cymdeithasol cymhleth mewn modd diogel a dibynadwy, bydd Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn ganolbwynt yng Nghymru ar gyfer ymchwil sy'n gysylltiedig â data, a bydd yn chwarae rhan flaenllaw yn ymdrechion y DU i drawsnewid amgylcheddau ymchwil a pholisi."

Meddai Jane Hutt AC, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Llywodraeth Cymru: "Mae lansio'r Ganolfan hon yng Nghymru'n nodi llwyddiant arall gan ein sefydliadau addysg uwch sydd ar flaen y gad yn y maes hwn. Drwy ddefnyddio data ar draws meysydd pwnc gwahanol mewn modd cyfrifol a diogel, mae'n darparu cyfle arloesol i ddatblygu ymhellach ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau a deall yr hyn sy'n llwyddo. Mae Llywodraeth Cymru'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Ganolfan yn y blynyddoedd i ddod er mwyn manteisio i'r eithaf ar y buddion a fydd yn deillio o'i gwaith.

Meddai Dr Fiona Armstrong, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Adnoddau a Chyfathrebu'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: "Mae'r Cyngor yn falch o gyflawni rôl arweiniol wrth gefnogi isadeiledd data cadarn ar gyfer gwyddor cymdeithasol. Ar y cyd â'r rhwydwaith ehangach, bydd Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru'n helpu i sicrhau bod y DU mewn sefyllfa i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau data cyfoethog, er lles ymchwilwyr, llywodraeth a chymunedau lleol".

Mae'r broses cysylltu data'n rhan hanfodol o ddiben y Rhwydwaith Ymchwil Data a'r pedair canolfan. Gan ddefnyddio cyfleuster cysylltu diogel ac annibynnol, gellir cysylltu data a gasglwyd gan wahanol gyrff y llywodraeth fel y gall ymchwilwyr achrededig ddadansoddi setiau data mwy cynhwysfawr yn fanylach.

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol yn cynnwys pedair Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol, un ym mhob un o wledydd y DU, a'r Gwasanaeth Data Gweinyddol sy'n cydlynu'r Rhwydwaith. Mae'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi buddsoddi £34 miliwn yn y Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol a dyma'r cam cyntaf mewn cyfres o fuddsoddiadau mewn Data Mawr gan y Cyngor.

Roedd y gynulleidfa yn y lansiad yn cynnwys amrywiaeth eang o gynrychiolwyr o'r byd academaidd, y sectorau cymunedol a gwirfoddol a swyddogion y llywodraeth. Roedd y siaradwyr yn y digwyddiad yn cynnwys yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru; Dr Fiona Armstrong, Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau a Chyfathrebu'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol; ac ymchwilwyr a fu'n amlinellu eu gwaith blaenorol ym maes data cysylltiedig a'r canlyniadau cyfoethog a deallus y gellir eu cael drwy gysylltu data.