Cyfres newydd Iolo Williams yn archwilio campws a Pharc Singleton Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe yn ymddangos ar raglen Iolo’s Great Welsh Parks ar sianel BBC One Wales am 7.30pm ar 12 Ionawr. Bydd y naturiaethwr, Iolo Williams, yn archwilio campws a Pharc Singleton Abertawe i ddarganfod pam ei fod mor arbennig i fywyd gwyllt a phobl. Bydd y bennod hefyd yn cynnwys Dr Dan Forman o Adran y Biowyddorau'r Brifysgol.

Iolo Williams

Mae gan Gampws Singleton ei Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth ei hun, ac mae wedi cynnal llawer o brosiectau a gwelliannau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gefnogi bioamrywiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys Llwybr Natur y Campws, a lansiwyd gan Iolo ei hun fis Mawrth 2013. Mae'r fenter boblogaidd hon rhwng y Tîm Cynaladwyedd, y Tîm Tiroedd ac Adran y Biowyddorau yn arddangos amrediad eang o gynefinoedd y'u defnyddir gan fywyd gwyllt, gan gynnwys sawl rhywogaeth ystlumod, moch daear, dyfrgwn, cadnoid ac amrywiaeth o famaliaid, pryfed ac adar bach eraill.

Yr ychwanegiad diweddaraf i'r Llwybr Natur yw ORACLE – yr Amgylchedd Dysgu Cymunedol ac Ymchwil Awyr Agored. Crëwyd yr adeilad ecolegol gynaliadwy hwn gan y prosiect Down to Earth (sefydliad cynaladwyedd nid er elw lleol) gyda chymorth staff a myfyrwyr y Brifysgol yn gwirfoddoli. Adeiladwyd ORACLE gan ddefnyddio ystod o ddeunyddiau naturiol ac a gafwyd yn lleol, gyda'r cyfan yn cael yr effaith ecolegol isaf posib ar y blaned. Darpara'r adeilad leoliad naturiol ar gyfer darlithoedd, gweithdai a thrafodaethau grŵp, yn ogystal â man ar gyfer hamdden ac ymlacio. Mae croeso i aelodau cymunedol a'r Brifysgol gynnal digwyddiadau arbennig yn ORACLE.

Aerial view Singleton

Meddai Dr Heidi Smith, Rheolwr Cynaliadwyedd y Brifysgol: “Mae cael Iolo ar y campws i ffilmio’r bennod hon wedi annog staff, myfyrwyr, ymwelwyr a phobl leol i ddarganfod mwy am hanes naturiol ein campws glan môr hyfryd, i gerdded ar hyd ein llwybr natur, i ddysgu am yr hyn rydym yn ei wneud i fywyd gwyllt, ac i ddarganfod ein gardd fotaneg hudol".