Dirprwy Weinidog Iechyd yn agor Ystafell Ymarfer Gwyddor Barafeddygol yn swyddogol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd Ystafell Ymarfer Gwyddor Barafeddygol Prifysgol Abertawe ei hagor yn swyddogol heddiw (27 Tachwedd 2015), gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething AC.

Paramedic Suite - official opening

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y llun (o'r chwith i'r dde): Rebecca Chalk, Lisa O’Sullivan, Vaughan Gething AC, yr Athro Ceri Phillips, Robert Fettah, ac Amy Houston. 


 

Wedi ei lleoli yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, bydd y cyfleuster newydd hwn yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i fyfyrwyr Gwyddor Barafeddygol, yn ogystal â gorsafoedd dysgu ymarferol.

Meddai Mr Gething: “Eleni, ariannodd Llywodraeth Cymru 58 o leoedd hyfforddi parafeddygol, sy'n gynnydd sylweddol. Rydym yn ymrwymedig i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd, gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cleifion yng Nghymru. Mae’r ystafell ymarfer newydd hyn yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i ddatblygu ein parafeddygon dan hyfforddiant”. 

Ychwanegodd yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: "Cynrychiola'r digwyddiad hwn ffrwyth sawl blwyddyn o waith caled gan ein staff parafeddygol er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn y profiad addysgiadol gorau posib, gan sicrhau eu bod yn meddu ar yr holl sgiliau angenrheidiol i weithio o fewn y gwasanaeth iechyd.

“Mae hefyd yn nodi dechrau cyfnod newydd ac arwyddocaol o addysg barafeddygol gwell o fewn Cymru a’r DU, gan adeiladu ar yr hyder a osodwyd ynom gan Wasanaethau Addysg a Datblygiad Gweithlu GIG Cymru - comisiynwyr addysg gweithwyr proffesiynol iechyd yng Nghymru - i ddatblygu parafeddygon a fydd yn gyfranwyr mawr i wasanaeth iechyd y dyfodol”.