Ein Bae: ymagwedd newydd i reoli arfordirol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Sut oes modd i ni wireddu potensial llawn Bae Abertawe? Dyna’r cwestiwn y bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru i’w ateb.

Bydd staff cwmni deillio Prifysgol Abertawe ‘Ymchwil Amgylchedd Dyfrol Cyf’ yn cynnal gweithdy ddydd Iau yma i annog rhanddeiliaid a phartïon lleol sydd â diddordeb mewn rheoli Bae Abertawe a wahoddwyd i gymryd rhan ac ateb y cwestiwn hwn. 

Gall Bae Abertawe iach gynnig cymaint o fanteision naturiol i ni, er enghraifft, dŵr glân i bobl ei fwynhau, amgylchedd hamdden prydferth, amrywiaeth o fywyd gwyllt a bwyd. Mae modd i ni wneud y gorau o’r manteision naturiol trwy reoli Bae Abertawe yn well. Gall hyn hefyd wella gwydnwch y Bae o ran bygythiadau yn y dyfodol.

Yn ystod y digwyddiad, bydd Matthew Quinn o Lywodraeth Cymru, Jerry Griffiths o Gyfoeth Naturiol Cymru, a Deborah Hill o Gyngor Dinas a Sir Abertawe oll yn rhoi anerchiad ac yn rhoi cyflwyniad i reoli’r Bae.

Y rheswm dros gynnal y gweithdy hwn yw am fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil yr Amgylchedd, sef deddfwriaeth newydd sy’n defnyddio ymagwedd ecosystem tuag at reoli’r amgylchedd ac adnoddau naturiol yng Nghymru. Caiff newidiadau eu cyflwyno trwy Fil yr Amgylchedd i sicrhau bod gennym ni’r fframwaith deddfwriaethol cywir mewn lle i reoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd a fydd yn rhoi manteision parhaol nawr ac ar gyfer cenhedloedd y dyfodol. Bydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd i ddatblygu a rhoi ymagwedd ar sail ardal ar waith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Allbwn yr ymagwedd hon fydd Datganiad Ardal sy’n gosod yn glir y blaenoriaethau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol. Bydd Bil yr Amgylchedd yn gweithio wrth ochr deddfwriaeth arall Llywodraeth Cymru gan gynnwys cynllunio morol.

Mae datblygu rheoli adnoddau naturiol ar sail ardal yn heriol ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â thri threial ar draws Cymru i archwilio i’r ymagwedd newydd hon, a Dalgylch y Tawe yw un ohonynt. Nod y gweithdy hwn yw dod o hyd i farnau clir rhanddeiliaid lleol a phartïon sydd â diddordeb a gwybodaeth.

Meddai Dr Ruth Callaway, Swyddog Ymchwil, yr Adran Fiowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym am glywed barnau sefydliadau a phobl leol, fel y bod modd iddynt gyfrannu at y treial hwn a dylanwadu ar y Datganiad Ardal ar gyfer dalgylch y Tawe. Gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, credwn fod hwn yn gyfle gwych i ymgysylltu a gweithio â phartneriaid fel llywodraeth leol, busnesau, y sector gwirfoddol a chymunedau lleol.

“Bydd y gweithdy hwn yn manteisio ar wybodaeth bresennol sydd ar gael mewn drafftiau o Gynlluniau Rheoli Bae Abertawe a luniwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y gweithdy yn adeiladu ar y gwaith hwnnw. Rydym am gryfhau dull cydweithredol o reoli a gosod cynaliadwyedd fel egwyddor ganolog. Gyda’n gilydd, bydd modd i ni helpu i wneud Bae Abertawe yn ardal fwy llewyrchus a gwydn. 

“Bydd allbynnau’r gweithdy yn rhaeadru i amrywiaeth o senarios rheoli a fydd yn cael eu coladu mewn adroddiad. Yn ystod y gweithdy trafodir a yw newidiadau o ran rheoli Bae Abertawe yn ddymunol ac a fyddai’n ddefnyddiol  creu grŵp rheoli Bae Abertawe traws-sector. Bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru yw dod o hyd i ymagwedd newydd tuag at reoli adnoddau naturiol sydd wedi’i hysgogi gan ddefnyddwyr Bae Abertawe.”