Hwb i ddarpariaeth Gymraeg Prifysgol Abertawe ar drothwy tymor newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae darpariaeth cyfwng Cymraeg Prifysgol Abertawe wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil buddsoddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hynny am y bumed flwyddyn yn olynol.

Mae’r brifysgol wedi penodi dau ddarlithydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg i weithio ym meysydd Peirianneg a Biofeddygaeth.

Dr Eifion Jewell Mae Dr Eifion Jewell yn hen gyfarwydd â Phrifysgol Abertawe wedi iddo gwblhau ei radd Peirianneg Mecanyddol yn Abertawe cyn cychwyn gweithio ar brosiect SPECIFIC Canolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol) y brifysgol yn 2011. Argraffu a chaenu yw arbenigedd Eifion, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn y maes o ddefnyddio prosesau argraffu a chaenu i greu cynnyrch electronig. Drwy gynnal prosiectau ymchwil peirianneg a darparu modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei rôl fel Uwch-ddarlithydd Peirianneg, gobaith Eifion yw cynorthwyo myfyrwyr i feithrin hyder wrth ymwneud â'r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, ffactor a ddylai gefnogi a chynnal y diwydiant peirianneg yma yng Nghymru.

‌Bydd Dr Alwena Haf Morgan o Sir Gâr yn ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe fel Darlithydd Biofeddygaeth. Ar ôl cwblhau ei doethuriaeth yn 2009, treuliodd Alwena gyfnod yn gweithio fel Gwyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant ym maes Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg yn labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru (WTAIL). Ers 2011, mae Alwena wedi bod yn cynnal gwaith ymchwil ar ocsisterols (sef deilliadau o golesterol), a gynhyrchir gan gelloedd imiwnedd dynol. Gobaith Alwena yw cyfrannu at ehangu’r ddarpariaeth bresennol ym maes Biocemeg a Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe.

Dr Alwena Haf Morgan Mae buddsoddiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn meysydd penodol wedi talu ar ei ganfed wrth i’r ffigyrau diweddaraf ddangos cynydd pellach yn y nifer o fyfyrwyr sy’n astudio rhan o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Dengys y data diweddaraf fod cynydd o 22% yn y nifer o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe sydd yn astudio o leiaf 5 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg ers 2012/ 2013. 

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy-Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i benodi’r academyddion blaengar hyn o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol wedi cynyddu gryn dipyn yn ddiweddar a bydd y penodiadau yma yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth, a hynny ar draws ystod eang o ddisgyblaethau academaidd. Dymunwn bob llwyddiant i Eifion ac Alwena yn eu swyddi newydd.’’

Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘‘Roeddem yn falch o fedru penodi’r unigolion hyn i’w swyddi ac yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn y nifer sy’n astudio’r pynciau hyn trwy’r Gymraeg yn sgil buddsoddiad y Coleg. Rydym yn hynod falch fel Coleg i weld twf darpariaeth Gymraeg mewn meysydd newydd ac mae’r datblygiadau yma ym Mhrifysgol Abertawe i’w croesawu’n fawr. Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt wrth greu a chynnal darpariaeth i fyfyrwyr yn y gwyddorau dros y blynyddoedd nesaf.’’