Mae pysgod â phersonoliaethau gwahanol yr un mor ‘hyblyg’ wrth ymateb i newidiadau yn eu hamgylchedd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd dan arweiniad Dr Ines Fürtbauer o Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd heddiw (ddydd Mawrth 13 Ionawr 2015) yng nghylchgrawn Cymdeithas Ecolegol Prydain, Functional Ecology, wedi datgelu bod crethyll â phersonoliaethau gwahanol yr un mor ‘hyblyg’ wrth ymateb i newidiadau mewn perygl gan ysglyfaethwyr.

Stickleback fish by Dr Ines Fürtbauer“Rydym yn gwybod bod gan anifeiliaid bersonoliaethau gwahanol, yn union fel pobl, sy’n golygu bod eu hymddygiad yn amrywio’n gyson, ond nid ydym yn gwybod eto sut mae anifeiliaid â phersonoliaethau gwahanol yn ymateb i newid”, meddai Dr Fürtbauer, sy’n gweithio yn y Coleg Gwyddoniaeth.

“Gyda gweithgareddau dynol yn cynyddu ym mhob cwr o’r byd, mae’n rhaid i anifeiliaid ymdopi’n gyflym iawn â llawer mwy o newidiadau a rhai gwahanol. Felly, mae deall sut mae anifeiliaid yn addasu i newidiadau o’r fath yn gwestiwn pwysig i fiolegwyr ei ddatrys.”

Yn gyffredinol, mae unigolion yn ymateb i fygythiad posib, gyda chynnydd mewn lefelau hormonau straen – a elwir yn ‘ymateb straen seicolegol’ - a gall y cynnydd hwn mewn hormonau straen effeithio ar ymddygiad unigolion yn wyneb bygythiad - sef, yr ‘ymateb ymddygiadol’.

Dros bum wythnos, bu tîm Dr Fürtbauer yn arbrofi er mwyn ceisio newid canfyddiad y pysgod o berygl ysglyfaethu drwy ddangos robot iddynt dro ar ôl dro a oedd yn edrych fel crëyr glas, sy’n un o ysglyfaethwyr naturiol crethyll.

Roeddent am weld a fyddai ymddygiad y pysgod a lefelau eu hormonau straen yn newid mewn ymateb i’r ysglyfaethwr ac, os felly, a oedd eu personoliaethau’n effeithio ar eu hymateb.

“Aethom ati i gasglu data ar ymddygiad drwy olrhain symudiadau’r pysgod o fideo, a gwnaethom fesur yr ymateb straen seicolegol drwy fesur swm yr hormonau straen a ryddhawyd i’r dŵr o amgylch y pysgod drwy eu tagellau.”

Canfu’r tîm gysondeb rhwng ymatebion ymddygiadol a hormonaidd unigol – mewn geiriau eraill, gwelwyd bod gan y pysgod bersonoliaethau ymddygiadol a seicolegol. Ond canfuwyd cysylltiad hefyd rhwng yr ymddygiad a lefelau’r hormonau – roedd y pysgod yn fwy swil ar y diwrnodau pan oedd lefelau eu hormonau straen yn uwch.

Fodd bynnag, y canfyddiad pwysicaf oedd bod pysgod â phersonoliaethau gwahanol yn gallu ymateb i’r un graddau i fygythiad niwed posib.

Mae’r ymchwilwyr yn meddwl y bydd y dull hwn - cyfuno technoleg olrhain glyfar ar gyfer  ymchwilio i ymddygiad pysgod a mesur lefelau eu hormonau o’r dŵr heb ymyrryd arnynt - yn trawsnewid ein ffordd o astudio gwahaniaethau mewn ffisioleg ac ymddygiad pysgod bach, yn ogystal â’u hymateb i newid yn yr amgylchedd.

“Personality, plasticity, and predation: linking endocrine and behavioural reaction norms in stickleback fish” Fürtbauer et al (yn y wasg) Functional Ecology.


Lluniau © Dr Ines Fürtbauer