Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Abertawe a Maleisia yn paratoi'r ffordd ar gyfer Cydweithio pwysig rhwng diwydiant ac academyddion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Abertawe ac Universiti Maylaysia Pahang (UMP) wedi cael ei lofnodi yng ngŵydd Prif Weinidog Maleisia, Datuk Seri Najib Tun Razak.

Swansea UMP MoUMae'r Memorandwm yn gam pwysig wrth baratoi'r ffordd ar gyfer cydweithio rhwng diwydiant a'r gymuned academaidd yn Rhanbarth Economaidd Arfordir y Dwyrain (ECER) Maleisia, gan hyrwyddo cydweithio a phartneriaethau academaidd ac ymchwil rhwng y ddwy brifysgol.

Llofnodwyd y Memorandwm yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau, 13 Awst), yn dilyn cyfarfod o Gyngor Datblygu Rhanbarth Economaidd Arfordir y Dwyrain (ECERDC), dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, Datuk Seri Najib Tun Razak.

Dan y Memorandwm, bydd y ddwy brifysgol yn cydweithio ar weithgareddau ymchwil ac academaidd, gan gynnwys trosglwyddo gwybodaeth a datblygu cynnyrch at ddibenion masnachol, hwyluso derbyniadau i gyrsiau'r ddwy brifysgol, yn ogystal â chyfnewid staff, myfyrwyr ac eraill.

Mae'r meysydd y bydd yr ymchwil yn canolbwyntio arnynt yn cynnwys: peirianneg, TGCh, meddygaeth, technolegau ynni adnewyddadwy a biowyddorau.

Bydd y prosiect peilot arfaethedig yn gydweithrediad ymchwil rhwng Canolfan Ymchwil Uwch mewn Llif Hylifau (CARIFF) arobryn UMP a Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe. Arweinir y prosiect gan yr Athro Andrew Barron, Athro Peirianneg Sêr Cymru yn Abertawe ac Athro Cemeg Welch ac athro gwyddor deunyddiau a nanopeirianneg ym Mhrifysgol Rice yn Texas.

Mae CARIFF yn arbenigo mewn technolegau deinameg hylif, yn enwedig ym meysydd lleihau llusgiad, systemau llif aml-wedd, technolegau olew a nwy, yn ogystal â deinameg hylif adweithiol.

Mae Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ar Gampws y Bae newydd Prifysgol Abertawe gwerth £450m sydd wedi'i gydnabod yn eang fel un o'r prosiectau economi wybodaeth pwysicaf yn Ewrop ac sy'n agor am waith y mis nesaf.

Mae gan y Sefydliad arbenigedd yn y sector ynni, yn enwedig materion diogelwch ym maes datblygu ac ehangu prosesau ynni sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â gweithredu ac integreiddio technolegau ynni 'gwyrdd' newydd mewn modd diogel.  Mae'r Sefydliad eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o bartneriaid diwydiannol rhyngwladol yn y sectorau olew a nwy, trin dŵr a gweithgynhyrchu deunyddiau.

Meddai'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor: "Rydym wrth ein bodd bod arbenigedd sefydledig Prifysgol Abertawe ym maes cydleoli ymchwil a diwydiant er mwyn ysgogi arloesi, twf economaidd ac entrepreneuriaeth wedi cael ei gydnabod ar y lefel uchaf ym Maleisia ac wedi derbyn sêl bendith y Prif Weinidog, Datuk Seri Najib Tun Razak.

"Mae'n bleser mawr gennym hefyd y bydd nifer o'n cyn-fyfyrwyr rhyngwladol nodedig yn cydweithio â ni. Mae llawer o'r rhain yn dal swyddi academaidd uchel mewn prifysgolion ym Maleisia, gan gynnwys UMP.

"Mae'r dymuniad i efelychu model llwyddiant Bae Abertawe ym Maleisia yn dyst i enw da Abertawe fel Dinas Arloesi ym maes datblygu sgiliau, cyflawni ymchwil o safon fyd-eang a thorri tir newydd o ran cydweithio â diwydiant.

"Mae'r model o gydweithio rhwng disgyblaethau academaidd a diwydiant yn Abertawe yn darparu cryfder gwybodaeth gymhwysol a phrofiad gwych o'r 'byd go iawn' i'n myfyrwyr. Yn ôl ffigurau diweddar gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, mae Abertawe yn y 15fed safle yn y DU ac yn gyntaf yng Nghymru o ran cynhyrchu graddedigion byd-eang sydd â'r gallu i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig neu sicrhau rôl broffesiynol o fewn chwe mis i raddio."

Meddai Prif Swyddog Gweithredol ECERDC, YBhg. Datuk Seri Jebasingam Issace John, cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, "Mae'n fraint ac yn anrhydedd bod Prifysgol Abertawe wedi dewis UMP ac ECER ar gyfer y cydweithrediad hanesyddol hwn, sy'n argoeli'n dda, nid yn unig ar gyfer y cymunedau diwydiannol ac academaidd yn y Rhanbarth ond ar gyfer y rakyat hefyd.

"Rôl y Cyngor yn y cydweithrediad yw manteisio ar egni a chryfderau unigryw'r ddwy brifysgol, drwy gydweithio rhwng diwydiant a'r gymuned academaidd, er lles buddsoddwyr yn Rhanbarth Economaidd Arfordir y Dwyrain, yn enwedig wrth feithrin doniau lleol i ddiwallu anghenion diwydiannau," meddai Datuk Seri Issace.

Ychwanegodd fod y cydweithrediad yn gyson â gweledigaeth y Llywodraeth i drawsnewid y rhanbarth yn gyrchfan buddsoddi o safon fyd-eang, y mae ei dwf yn cael ei ysgogi gan yr economi wybodaeth.

"Mae Cyngor Datblygu Rhanbarth Economaidd Arfordir y Dwyrain, ar y cyd ag UMP a Phrifysgol Abertawe, yn cydnabod bod ymchwil a datblygu'n gallu ysgogi arloesi mewn meysydd megis ynni adnewyddadwy, technolegau peirianneg, meddygaeth, gwyddorau bywyd a chyfrifiadura perfformiad uchel, sef meysydd allweddol yn yr economi wybodaeth," meddai.

"Gall cydweithio rhwng diwydiannau a'r gymuned academaidd, ynghyd â chymorth gan lywodraethau'r ddwy wlad, helpu i ddatblygu arloesi o'r fath a'i droi'n gynnyrch a gwasanaethau masnachol sy'n gallu creu swyddi newydd i bobl leol, gan wella bywydau a newid cymunedau er gwell."

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd rhwng Prifysgol Abertawe ac Universiti Maylaysia Pahang hefyd yn adeiladu ar yr ymweliad diweddar â Phrifysgol Abertawe gan yr Anrhydeddus Pehin Orang Kaya Pekerma Dewa Dato Seri Setia Lim Jock Seng, Ail Weinidog Materion Tramor a Masnach Brunei Darussalam a chyn-fyfyriwr a Chymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe.

Bu'r Anrhydeddus Pehin Dato Lim Jock Seng yn traddodi Darlith Goffa James Callaghan 2015 ym mis Mehefin eleni, ar y thema Enhancing ASEAN-UK Relations: Forging closer ties between Brunei Darussalam and Swansea in a globalised world.


Yn y Llun: (blaen, ar y chwith) Prif Swyddog Gweithredol ECERDC, Datuk Seri Jebasingam Issace John, cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe; (blaen, yn y canol) Yr Athro Andrew Barron, Athro Peirianneg Sêr Cymru yn Abertawe, sy'n arwain Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe; a (blaen, ar y dde) Yr Athro Dato Dr Daing Nasir Ibrahim, Is-ganghellor Universiti Malaysia Pahang, gydag aelodau Cyngor Datblygu Rhanbarth Economaidd Arfordir y Dwyrain (ECERDC) yng nghyfarfod y Cyngor a gadeiriwyd gan y Prif Weinidog, Datuk Seri Najib Tun Razak.