Pennaeth Integreiddio a Thwf Swyddfa Dywydd y Deyrnas Unedig i siarad am 'The weather and climate: How will it change in the future?'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Dr Vicky Pope, Pennaeth Integreiddio a Thwf Swyddfa Dywydd y Deyrnas Unedig, yn ymweld â Phrifysgol Abertawe fis nesaf i roi'r ddarlith nesaf yng Nghyfres Darlithoedd Cyhoeddus Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd Sêr Cymru (NRN-LCEE).

Cynhelir darlith Dr Pope, The weather and climate: How will it change in the future?, ddydd Mercher, 2 Rhagfyr gan Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol. Yn y ddarlith bydd Dr Pope yn disgrifio rhai o brif nodweddion hinsawdd a thywydd ac yn esbonio sut mae dylanwadau naturiol ac o ganlyniad i weithgarwch dynol yn effeithio ar ein hinsawdd, a sut mae'r newidiadau hyn yn debygol o effeithio ar Gymru yn y dyfodol.

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda derbyniad diodydd am 6pm yn Narlithfa Faraday A yn Adeilad Faraday. Yna ceir croeso gan yr Athro Steve Wilks, Dirprwy Is-ganghellor, a bydd darlith Dr Pope yn dechrau am 6:30pm yn Narlithfa Faraday, gan orffen am 7:30pm.

Mae'r ddarlith am ddim ac mae croeso i'r cyhoedd. Caiff y ddarlith ei recordio a bydd ar gael ar wefan darlithoedd cyhoeddus NRN-LCEE ar ôl y digwyddiad.

Meddai trefnwr lleol y ddarlith, Dr Luca Börger, Athro Cyswllt yn Adran y Biowyddorau, y Coleg Gwyddoniaeth, "Edrychwn ymlaen at groesawu Dr Vicky Pope i Brifysgol Abertawe ar 2 Rhagfyr ar gyfer darlith a fydd yn graff ac o gryn ddiddordeb i'n myfyrwyr, ein staff a'r cyhoedd, y mae croeso mawr iddynt ddod i'r digwyddiad hwn."

Fel Pennaeth Integreiddio a Thwf Swyddfa Dywydd y Deyrnas Unedig, mae Dr Vicky Pope yn gyfrifol am wneud y gorau o'i gallu gwyddonol i'r llywodraeth a'i phartneriaid.

Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer arloesi, gan integreiddio gwyddor amgylcheddol arloesol a ddatblygwyd gan y Swyddfa Dywydd a'i phartneriaid â'r dechnoleg ddiweddaraf i ddarparu gwasanaethau newydd a gwell.

Mae'r rôl hon yn tynnu ar brofiad Dr Pope fel gwyddonydd hinsawdd ac yn trosi'r wyddoniaeth honno er budd y llywodraeth ac eraill.

Mae ei diddordebau presennol yn cynnwys gweithio gyda sectorau'r gofod, hydroleg, trafnidiaeth a'r economi ddigidol i ddatblygu gwasanaethau newydd, yn ogystal â rolau ymgynghorol ar newid hinsawdd.

Mae Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd Sêr Cymru (NRN-LCEE) yn fenter fawr Cymru gyfan a ariennir gan fenter Sêr Cymru Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae'r rhwydwaith yn cefnogi ymchwil ar y cyd a rhyngddisgyblaethol yng Nghymru i'r rhyngweithiadau rhwng tir, dŵr, darpariaeth bwyd a chynhyrchu ynni, a'r graddfeydd gofodol gwahanol ar draws systemau awyr-tir-dŵr.

Mae NRN-LCEE yn fenter Cymru gyfan sy'n cynnwys partneriaid o Brifysgolion Bangor, Aberystwyth, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe; Canolfan Ecoleg a Hydroleg Bangor; Arolwg Daearegol Prydain Cymru; a Swyddfa Dywydd y Deyrnas Unedig.