Prifysgol Abertawe yn dathlu ei staff rhagorol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae saith aelod o staff dysgu Prifysgol Abertawe wedi derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTAs), yn ystod wythnos graddio’r Brifysgol (20 – 24 Gorffennaf).

Datblygwyd y gwobrau ynghyd ag Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod gan fyfyrwyr lais uwch yn y broses o ddyfarnu gwobrau wrth i staff gael eu henwebu gan fyfyrwyr am eu gallu gwych mewn dysgu.

Cyflwynwyd y gwobrau gan yr Is-ganghellor, yr Athro Richard B. Davies. Meddai: “Wrth i ni ddathlu llwyddiannau ein myfyrwyr yn ystod yr wythnos graddio, mae’n bwysig bod y staff sydd wedi cyfrannu at eu llwyddiannau hefyd yn derbyn cydnabyddiaeth.

“Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd y profiadau rydym yn cynnig i’n myfyrwyr, a gwn bod staff, graddedigion a rhieni yn falch o’r cyfle i gydnabod y staff sydd yn ysbrydoli’r myfyrwyr, nid yn unig yn academaidd ond yn fugeiliol hefyd.

Ar ddydd Llun, 20 Gorffennaf, yn ystod cynulliad graddio Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, cafodd pum aelod o staff eu gwobrwyo.

Y cyntaf i dderbyn ei gwobr oedd Vivienne Rogers, Darlithydd yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg.  Cyfeiriodd y myfyrwyr at arddull unigryw Vivienne wrth ddarlithio, sef defnyddio nifer o wahanol arddulliau o addysgu, gan sicrhau ei bod hi’n herio’r myfyrwyr, gan osgoi eu gorlwytho.  Disgrifiwyd Vivienne fel “chwa o awyr iach” ac “yn ysbrydoliaeth wirioneddol”.

Derbyniodd Dr Paul Facey, Swyddog ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth, ei wobr am ei “wybodaeth, rhadlonrwydd, hiwmor a’i barodrwydd i helpu.” Cafodd ei ganmol gan fyfyrwyr am ei adborth manwl, a’i allu i wybod pan fod myfyrwyr yn eu cael hi’n anodd. Meddai nifer o’i fyfyrwyr eu bod yn teimlo braint o fod wedi cael eu dysgu ganddo.

Cymeradwywyd Fritz-Gregor Herrmann, Darllenydd yn yr Adran Hanes a'r Clasuron, am yr angerdd sydd ganddo tuag at ei bwnc, gan ddefnyddio gwahanol arddulliau o ddysgu sydd yn galluogi myfyrwyr i werthfawrogi’r cynfyd Groegaidd-Rufeinig.

Derbyniodd Dr Chris Millington, Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Hanes a'r Clasuron, gydnabyddiaeth am ei allu i wneud Hanes yn bwnc  gafaelgar a pherthnasol. Nododd nifer o’i fyfyrwyr eu bod yn hoff o’i natur diymhongar a’i frwdfrydedd, yn ogystal â’i arddull addysgu arloesol.

Cafodd yr Athro John Morgan o’r Adran Hanes a'r Clasuron ei enwebu am ei allu i ddod â llenyddiaeth hynafol yn fyw drwy ei natur unigryw a doniol. Cafodd ei nodi yn 'eithriadol' gyda'r gallu i herio ac annog myfyrwyr yn y fath fodd eu bod yn gallu deall testunau anodd.

Cafodd Ruth Costigan, Athro Cyswllt mewn Astudiaethau Cyfreithiol Israddedig yng Ngholeg y Gyfraith ei chydnabod gyda gwobr am ei rhan allweddol wrth ddatblygu mecanweithiau i gefnogi addysgu o fewn yr adran.

Derbyniodd Mrs Sharon Harvey, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Nyrsio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ei gwobr yn ystod y seremoni raddio ar gyfer y Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ar 22 Gorffennaf. Cafodd ei henwebu am ELTA am ei brwdfrydedd a'i gwybodaeth fanwl am ei phwnc. Cafodd ei ddisgrifio fel 'rhagorol', gyda myfyrwyr yn edmygu ei chyfeiriadau allweddol at adnoddau addysgol.