Prifysgol Abertawe yn penodi bargyfreithiwr blaenllaw yn Bennaeth Coleg y Gyfraith

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi penodi un o gyfreithwyr mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig yn Bennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol.

Mae Elwen Evans CF wedi gweithredu mewn nifer o achosion llys o bwys: hi oedd y prif erlynydd yn achos llofruddiaeth April Jones a bu'n arwain tîm yr amddiffyniad yn achos trychineb mwyngloddio Gleision. Mae'n Gofiadur Llys y Goron (barnwr rhan-amser) ac mae'n Bennaeth Siambr Bargyfreithwyr o fri ers nifer o flynyddoedd.

Bydd yr Athro Evans CF, sy’n hanu o Sir Ddinbych yn wreiddiol, yn dechrau yn ei rôl newydd yn y Brifysgol ar 1 Awst ac mae'n edrych ymlaen at yr her o helpu i lunio dyfodol maes y gyfraith yng Nghymru a'r tu hwnt.

Elwen Evans QC'Cyfle euraidd'

Meddai, "Rwy'n credu bod cyfle euraidd gan y Coleg i gyflawni rôl bwysig mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol ac mae'n bleser mawr gen i gael cyfle i arwain tîm a fydd yn dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o raddedigion y gyfraith a chyfreithwyr.

"Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant y Coleg a rhagoriaeth ymchwil y Brifysgol. Rwy'n awyddus i'r Coleg ddarparu addysgu o safon sy'n canolbwyntio, nid yn unig ar ymchwil, ond hefyd ar gyflwyno hyfforddiant, sgiliau a phrofiad academaidd ac ymarferol effeithiol o safon.

"Mae penodi ymarferydd yn Bennaeth y Coleg yn ddatblygiad cyffrous i'r Brifysgol. Mae'n dangos ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu ysgol y gyfraith fodern, berthnasol a deinameg, sy'n helpu i bennu'r agenda mewn byd cyfreithiol sy'n newid yn gyflym. Mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cysylltiadau agos rhwng myfyrwyr ac ymarferwyr, y math o gysylltiadau sy'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd profiad myfyrwyr a'u rhagolygon cyflogaeth."

Bydd yr Athro Evans CF yn parhau i weithredu fel Cofiadur a bydd ar gael i weithredu mewn rhai achosion cyfreithiol, ond mae'n dweud bod ei phenodiad newydd yn gyfle cyffrous i ehangu ei rôl: "Fel Pennaeth y Coleg, rwy'n credu y gallaf wneud gwahaniaeth mewn cyd-destun ehangach na'r hyn sy'n bosib fesul achos yn unig.

"Rydym yn wynebu penderfyniadau allweddol ym myd y gyfraith. Mae'r rhain yn cynnwys cwmpas addysg ac ysgolheictod cyfreithiol; cynnwys addysgu ac ymchwil cyfreithiol; sut bydd cyfreithwyr ac ymarferwyr proffesiynol eraill yn cymhwyso yn y dyfodol; ail-lunio'r sector cyfreithiol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang; heriau penodol datblygiad awdurdodaeth Cymru i ddeddfu; ac effaith cyfathrebu digidol ar wasanaethau cyfreithiol. Mae hyn i gyd yn ychwanegol at newidiadau cyson yn y gyfraith ar bob lefel o lywodraethu. Mae'n bwysig ein bod yn cyfrannu at y trafodaethau hyn. Mae'n hollbwysig sicrhau bod ein myfyrwyr wedi'u paratoi'n drylwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol - a'u bod yn mwynhau pob cam o’r daith."

'Cyfraniad eithriadol'

Wrth groesawu'r penodiad, meddai'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor a Deiliad Cadair Hodge yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n bleser mawr gennym groesawu Elwen fel Pennaeth newydd ein Coleg y Gyfraith.  Oherwydd ei harbenigedd a'i gwybodaeth ym maes datblygiad y Gyfraith, fel disgyblaeth academaidd ac yn y byd go iawn, bydd hi'n gwneud cyfraniad eithriadol i ddyfodol datblygiad y Gyfraith a Throseddeg yn Abertawe. Bydd ei gwybodaeth a'i phrofiad yn amhrisiadwy wrth helpu Coleg y Gyfraith i gyflawni uchelgeisiau newydd."