St. Modwen a Phrifysgol Abertawe’n cytuno ar lety myfyrwyr ychwanegol ar gyfer Campws newydd y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae St. Modwen, arbenigwyr adfywio blaenllaw'r Deyrnas Unedig a phrif ddatblygwyr Campws newydd gwerth £450 miliwn y Bae, wedi llofnodi Cytundeb Datblygu gyda Phrifysgol Abertawe i adeiladu 538 o ystafelloedd en suite ychwanegol ar safle'r campws newydd.

Bydd gwaith ar gyfnod nesaf datblygu llety i fyfyrwyr yn dechrau ym mis Ionawr 2016, a bydd wedi'i gwblhau yn barod i fyfyrwyr symud i mewn ym mis Medi 2017. Bydd hwn yn dod â chyfanswm y llety sydd ar gael i fyfyrwyr, a ddarperir mewn tri chyfnod gwahanol gan St. Modwen ar gyfer Campws y Bae, i 2,000 erbyn hydref 2017.‌

Mae'r 917 o ystafelloedd cyntaf eisoes wedi'u cwblhau o fewn y gyllideb ac ar amser i groesawu'r garfan gyntaf i Gampws y Bae ym mis Medi 2015. Mae'r cyfnod nesaf o adeiladu 545 o ystafelloedd bron wedi'i gwblhau gan y contractwr, Galliford Try, yn barod i'r myfyrwyr symud i mewn ddechrau 2016, i'w ddilyn yn ddiweddarach gan y trydydd cyfnod hwn o adeiladu 538 o ystafelloedd.

Mae Cartrefi Myfyrwyr St. Modwen, isadran newydd o fewn St. Modwen, eisoes yn gyfrifol am reolaeth barhaus cyfnod cyntaf y llety myfyrwyr a'r cyfleusterau cysylltiedig ar Gampws y Bae, a bydd yn rheoli'r ddau gyfnod nesaf drwy gydol 2016 a 2017. Mae tîm Cartrefi Myfyrwyr St. Modwen hefyd yn gyfrifol am ddarparu gofal bugeiliol i'r myfyrwyr preswyl.

Mae St. Modwen yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe i ddarparu llety dros dro i fyfyrwyr ychwanegol Campws y Bae ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan, gyda gwasanaeth bws rheolaidd rhwng y ddau safle.

Meddai Rupert Joseland, Cyfarwyddwr Rhanbarthol De Cymru St. Modwen, "Mae datblygiad Campws y Bae yn uchafbwynt mawr yn rhaglen adfywio 2,500 erw drawsffurfiol a pharhaus St. Modwen ar draws de Cymru. Mae'r miliwn troedfedd sgwâr cyntaf, sy'n cynnwys 917 o ystafelloedd myfyrwyr, bellach wedi'u cwblhau, a'r Cytundeb diweddaraf hwn â'r Brifysgol yw'r cam nesaf mewn gweledigaeth hirdymor i fod yn sefydliad addysgol o safon fyd-eang, a fydd o fudd i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol am genedlaethau i ddod."

Ychwanegodd yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Mae Prifysgol Abertawe bellach yn gweithredu dau gampws o fri ym Mharc Singleton a Champws newydd y Bae. Bydd y llety ychwanegol yng Nghampws y Bae a gyhoeddwyd heddiw yn gwella'r hyn y gall y Brifysgol ei gynnig i fyfyrwyr ymhellach, yn gyson â'n huchelgais o fod yn un o 200 o brifysgolion gorau'r byd. Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer y Flwyddyn Newydd!”

Mae'r caniatâd cynllunio presennol ar gyfer Campws y Bae yn caniatáu darparu hyd at 4,000 o breswylfeydd newydd i fyfyrwyr yn ystod hyd oes y prosiect adeiladu deng mlynedd hwn. Bydd St. Modwen yn parhau i weithio'n agos mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe i wireddu'r nod hwn.