Y Diwrnod Ddaeth y BAAS i Abertawe: 1848 a Phopeth - darlith gyhoeddus

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Y Diwrnod Ddaeth y BAAS i Abertawe: 1848 a Phopeth - darlith gyhoeddus lawn

Yr Athro Iwan Morus, Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth

Dydd Iau 2 Gorffenaf, 5.00-6.30 pm

Faraday Lecture Theatre, Prifysgol Abertawe SA2 8PP

Croeso i bawb

Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Brydeinig Hanes y Gwyddorau 2015

Ym mis Awst 1848 daeth y ‘British Association for the Advancement of Science’ i Abertawe i gynnal eu cyfarfod blynyddol – y tro cyntaf i un o’r cyfarfodydd yma gael ei gynnal yng Nghymru.

Roedd y degawdau blaenorol wedi bod yn rai o gythrwfl gwleidyddol ac economaidd sylweddol yng Nghymru wrth i drefi fel Abertawe ddatblygu’n ddiwydiannol , ac wrth i garfannau newydd ddod i’r blaen ar lwyfannau lleol a chenedlaethol. Pan ddaeth y BAAS i Abertawe roeddynt yn dod i dref yn y broses o drawsnewid.

Yn y ddarlith yma bydd Yr Athro Morus yn edrych ar y cyfarfod o agweddau gwahanol, gan edrych i weld beth olygai i wahanol bobl. Roedd 1848, wrth gwrs, yn flwyddyn o chwyldroadau a lled chwyldroadau ar draws Ewrop. Oedd ymweliad y BAAS a thref daleithiol Gymreig yn arwydd o ryw fath o chwyldro hefyd?