Ymchwil Abertawe’n cefnogi ymgais record y byd ar draws capan iâ’r Ynys Las

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd arbenigedd ymchwil Prifysgol Abertawe y tu ôl i dîm a fydd, ym mis Mai 2015, yn rhoi cynnig ar daith gyntaf y byd gan drychedig, heb gymorth, ar draws capan iâ’r Ynys Las, sy’n mesur 600 cilomedr, er budd yr elusen Help for Heroes.

Enw’r tîm yw 65 Degrees North ac mae’n cynnwys Peter Bowker, trychedig o’r gwrthdaro diweddar yn Affganistan, ynghyd â phedwar o gydweithwyr eraill, gan gynnwys cyn-aelodau staff o’r Lluoedd Arbennig.

Bydd y tîm yn croesi’r capan, heb gymorth, ar sgïau, gan dynnu pylciau’n pwyso hyd at 300 pwys a fydd yn cario’u bwyd, eu dillad a’u hoffer goroesi. Mae’r llwybr oddeutu 600 cilomedr, o Kangerlussuaq yn y gorllewin i Kulusuk yn y dwyrain.

Gyda’i gilydd, byddant yn brwydro yn erbyn y pellter a’r blinder, tymereddau mor isel â -37°c, crefasau dwfn a’r eirth gwynion sy’n byw yno. Amcangyfrifir y bydd y siwrne, sy’n ymgais am record y byd, yn cymryd rhwng 24-30 o ddiwrnodau.

65 degrees north - Dr Meinir JonesBu arbenigwyr gwyddor chwaraeon Prifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr o Rwydwaith Cymru ar gyfer Arloesi mewn Perfformiad Chwaraeon, eisoes yn gweithio gyda’r tîm 65 Degrees North ar nifer o brosiectau. Er enghraifft, gwnaeth Dr Mellita McNarry a Dr Kelly MacKintosh broffil o'r tîm ar gyfer eu ffitrwydd erobig sylfaenol i ganiatáu i effeithiolrwydd eu paratoadau gael ei fonitro. Yn ogystal mae Dr Steve Mellalieu yn gweithio gyda’r tîm ar bynciau megis cydlyniant y tîm ac ymdopi â’r pwysau sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad hwn. Ac yn olaf, bu Dr Kilduff, Dr Shearer (Prifysgol De Cymru) a Mrs Clare Henson yn gweithio gyda’r tîm ar dechnegau goddefol ar gyfer cynnal gwres ac ansawdd cwsg.

Mewn cyfarfod diweddar ym Mhrifysgol Abertawe, cafodd y tîm 65 Degrees North y cyfle hefyd i siarad ag ymchwilwyr eraill, a agorodd y drws i ffyrdd eraill y gallai ymchwil arbenigol gefnogi’r alldaith, gan gynnwys:

  • Yr hyn y gall pengwiniaid ac eirth gwynion ein dysgu am gadw ynni mewn amodau â thymereddau sy’n is na sero:  Gwnaeth yr Athro Rory Wilson o’r Coleg Gwyddoniaeth, sy’n arbenigwr ar symudiadau ac olrhain anifeiliaid, ddisgrifio i’r tîm sut y mae anifeiliaid yn lleihau ynni drwy ddilyn eira cywasgedig yn lle eira ffres, hyd yn oed os yw’r llwybr yn hirach. Mae hefyd yn bosibl y bydd y tîm yn defnyddio tagiau fel y mae’r Athro Wilson yn ei wneud i olrhain symudiadau anifeiliaid, er mwyn monitro symudiadau a chyfradd gwaith y tîm.
  • Cadw’n gynnes ar yr iâ gyda gwresogyddion printiedig: Gwnaeth Dr Davide Deganello o’r Coleg Peirianneg drafod â’r tîm 65 Degrees North sut y gallai’r llieiniau twym y mae ef wrthi’n eu datblygu ddarparu dosau o wres ychwanegol ar adegau pan fyddant yn arbennig o agored i’r amodau oer, er enghraifft y peth cyntaf yn y bore.

65 degrees north - Pete BowkerMeddai’r Athro Cyswllt Liam Kilduff, o’r Adran Technoleg Chwaraeon Cymhwysol, Ymarfer Corff a Meddygaeth o fewn y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, cyfarwyddwr WEPSIN, ac yn un o noddwyr 65 Degrees North: “Mae’n bleser gennym gefnogi’r tîm yn 65 Degrees North. Defnyddir yr ymchwil a wneir yma ym Mhrifysgol Abertawe mewn perthynas â rhai o’r prif faterion perfformiad y tynnwyd sylw atynt gan y tîm, o sicrhau eu bod yn y cyflwr gorau posibl i sut i gadw’n gynnes mewn tymereddau rhewllyd. Mae sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith ar broblemau bywyd go iawn yn flaenoriaeth i ni, ac mae ein gwaith gyda 65 north yn brawf o hynny.”

Nod her 65 Degrees North yw codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Help for Heroes. Mae Help for Heroes (H4H) yn elusen Brydeinig sy’n helpu i ddarparu cyfleusterau gwell ar gyfer milwyr o Brydain sydd wedi’u clwyfo neu’u hanafu ar ddyletswydd.

Mae’r noddwyr a’r cefnogwyr eraill yn cynnwys y seren rygbi o Gymru Alun Wyn Jones a raddiodd o Brifysgol Abertawe, a’r actor a’r cyflwynydd Ross Kemp.