Ymchwil newydd yn amlygu cysylltiad rhwng gorbryder mamau a diddyfnu

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Adran Iechyd y DU’n argymell y dylid cyflwyno babanod i fwydydd solet pan fyddant yn chwe mis oed ond mae llawer o rieni newydd yn penderfynu cyflwyno bwydydd solet cyn yr oedran hwn. Gall hyn gynyddu risg o rai clefydau a gordewdra, yn enwedig pan gaiff bwydydd solet eu cyflwyno yn gynnar iawn pan fo’r baban yn llai na phedwar mis oed.

Baby feeding

Nod yr astudiaeth hon a arweiniwyd gan yr Adran Iechyd Cyhoeddus, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe oedd archwilio pam fod llawer o fabanod yn derbyn bwydydd solet yn rhy gynnar. 

Gan archwilio’r cysylltiad rhwng personoliaeth y mamau, lles ac oedran babanod pan gyflwynwyd bwydydd solet ymhlith 604 o famau newydd, dangosodd y canfyddiadau fod babanod yn y sampl yn derbyn bwydydd solet mor gynnar â 6 wythnos oed gyda dau draean yn cyflwyno bwydydd solet cyn yr oedran a argymhellir o chwe mis oed. Roedd y mamau hynny a gafodd sgoriau uwch ar gyfer nodweddion personoliaeth o ran gorbryder a mewnblygrwydd neu’r rhai hynny a gafodd sgoriau uchel ar fesuriadau gorbryder cyfredol yn fwy tebygol o roi bwydydd solet i’w babanod yn gynnar. 

Meddai Dr Amy Brown, cyfarwyddwr rhaglen ar gyfer yr MSc Iechyd Cyhoeddus Plant  a arweiniodd yr astudiaeth ‘Mae’r canfyddiadau’n dangos y gallai gorbryder yn benodol arwain i famau benderfynu cyflwyno bwydydd solet i’w baban cyn yr odran a argymhellir. Mae bwydo babanod yn bwnc emosiynol dros ben a gall fod llawer o bwysau ar famau newydd i deimlo bod yn rhaid iddynt wneud popeth yn ‘gywir’. Os yw mam yn teimlo’n bryderus mae llawer o ffactorau ynghylch bwydo a thwf yn ystod y misoedd cyntaf hynny sy’n golygu y gall cyflwyno bwydydd solet i’w baban ymddangos fel y datrysiad ond prin iawn y bydd hynny’n wir.

Er enghraifft, pryder cyffredin yw nad oes gan laeth ddigon o egni na maetholion ar gyfer baban sy’n tyfu er bod gan laeth y fron a llaeth fformiwla lawer mwy o ynni a maetholion na’r rhan fwyaf o fwydydd diddyfnu. Mae’r pryder hwn yn aml yn gysylltiedig â phryderon ymhlith mamau sy’n bwydo ar y fron nad oes modd iddynt gynhyrchu digon o laeth i fwydo baban mwy er gwaethaf y ffaith y bydd y rhan fwyaf o famau’n gallu cynhyrchu digon o laeth os ydynt yn bwydo eu baban ar gais. Fodd bynnag, yn aml bydd mamau â baban sy’n bwydo ar y fron ac sydd am fwydo’n aml yn meddwl bod y baban am wneud hyn oherwydd diffyg llaeth. Mae babanod sy’n bwydo ar y fron yn bwydo’n aml gan fod llaeth y fron yn cael ei dreulio’n hawdd iawn ond mae hyn yn normal ac nid yw’n arwydd o chwant bwyd - fel oedolion ni fydd llawer ohonom yn mynd am bedair awr heb fwyta nac yfed dim, ac mae angen i fabanod fwydo hefyd.

Pryder cyffredin arall yw nad yw’r baban yn ennill pwysau’n ddigon cyflym. Yn aml ystyrir baban mawr sy’n ennill pwysau’n gyflym yn gyflawniad ac yn rhywbeth a anogir gan y gweithwyr iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, er y bydd babanod yn ennill pwysau’n eithaf cyflym yn yr wythnosau cynnar, bydd ennill pwysau’n arafu’n naturiol o gwmpas 3 - 4 mis oed. Gall hyn gael ei gamddeall fel arwydd bod angen mwy o laeth ar y baban ond unwaith eto os ydych yn poeni am ennill pwysau, fel arfer mae gan laeth fwy o egni na rhoi bwydydd solet.

Yn olaf, ceir llawer o bwysau diwylliannol ar famau i fod â baban ‘da’ sy’n fodlon yn ystod y dydd ac sy’n cysgu’n dda gyda’r nos, er gwaethaf y ffaith ei bod yn hollol normal i faban ddeffro’n aml gyda’r nos am y flwyddyn gyntaf.  Mae myth y bydd rhoi bwyd solet i faban yn ei helpu i gysgu trwy’r nos ond nid yw hyn yn wir. I fam sy’n bryderus iawn am ddiffyg cwsg ymddangosiadol ei baban, gall rhoi bwydydd solet ymddangos yn ddatrysiad hawdd. Fodd bynnag, fel arfer ni chaiff hyn lawer o effaith o ran gwella cwsg ac mewn gwirionedd gall hyd yn oed gynyddu’r risg o gwsg ansefydlog wrth i’r baban ymdrechu i dreulio’r bwyd.

Ar y cyfan rydym yn gwybod yn ddelfrydol ein bod am i fwy o fabanod fwydo ar y fron am fwy o amser ac i fwydydd solet gael eu cyflwyno’n agosach at chwe mis. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod y gall hyn fod yn her i lawer o famau newydd a bod llawer o ffactorau’n effeithio ar eu penderfyniad ar sut i fwydo’u baban. Trwy ddeall y gall gorbryder arwain i rai mamau newydd gyflwyno bwydydd solet yn rhy gynnar, bydd modd helpu’r rhai hynny sy’n gweithio gyda mamau newydd ar yr adeg honno i dawelu meddwl mamau a rhoi arweiniad iddynt ynghylch ffyrdd eraill y gallant gefnogi datblygiad eu baban yn lle rhoi bwydydd solet. 

Mae’r ymchwil bellach wedi’i chyhoeddi yn Maternal and Child Nutrition http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/mcn.12172/abstract