Cwrs ôl-raddedig newydd i helpu i fynd i'r afael ag argyfwng byd-eang mewn gonestrwydd chwaraeon

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill grant i sefydlu cymhwyster ôl-raddedig newydd a fydd yn creu arbenigwyr a fydd yn helpu i fynd i'r afael a'r argyfwng byd-eang mewn gonestrwydd chwaraeon.

Sport dopingMae Prifysgol Abertawe wedi ennill grant i sefydlu cymhwyster ôl-raddedig newydd a fydd yn creu arbenigwyr a fydd yn helpu i fynd i'r afael a'r argyfwng byd-eang mewn gonestrwydd chwaraeon.

 

Enillodd academyddion yn yr adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff y grant sy'n werth €2.9 miliwn gan sefydliad ariannu yr UE sef Erasmus+ a byddant yn lansio cwrs MA mewn Moeseg a Gonestrwydd Chwaraeon (MAiSI) © ym mis Medi 2017 gyda chymorth gan gydweithwyr o:

  • Universitat Pompeu Fabra, Barcelona, Sbaen.
  • Prifysgol Charles, y Weriniaeth Tsiec.
  • Prifysgol Johannes Gutenberg, Yr Almaen.
  • Prifysgol Leuven, Gwlad Belg.
  • Prifysgol y Peloponnese, Gwlad Groeg.

Sefydlwyd y cwrs yn ymateb i'r problemau moesegol sy'n gynyddol effeithio ar y byd chwaraeon, o lwgrwobrwyo, trefnu canlyniadau gemau, dopio a gosod betiau yn anghyfreithlon. Bydd y cwrs newydd yn ymateb i ofyniad brys i ddatblygu ymateb cydlynol, proffesiynol i'r materion hyn sy'n ymwneud â gonestrwydd mewn cyrff a sefydliadau chwaraeon ar bob lefel.

Bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant i'w helpu i adnabod materion moesegol, i ymgysylltu ac i feddwl yn foesegol, a throsi penderfyniadau yn weithredoedd moesegol - sef y tair sgil graidd sydd eu hangen i ddatblygu gonestrwydd chwaraeon. Byddant hefyd yn datblygu meddylfryd moesegol a sgiliau trosglwyddadwy i archwilio materion gwerthoedd a gonestrwydd sy'n wynebu ffederasiynau chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol, Pwyllgorau Gemau'r Olympaidd a Phwyllgorau Gemau'r Paralympaidd gan ganolbwyntio ar:   

  • Llywodraethu chwaraeon yn fyd-eang (e.e. FIFA, IOC)
  • Addysg am wrth-ddopio a chyffuriau
  •  Materion sy'n ymwneud â phreifatrwydd a diogelu data
  • Chwarae Teg, cyfiawnder a hawliau dynol
  •  Gemau Olympaidd Ieuenctid, moeseg ac addysg
  •  Uniondeb, amrywiaeth a chynhwysiant (yn enwedig ar gyfer materion sy'n ymwneud ag oedran ac anabledd)
  • Gamblo yn anghyfreithlon a gamblo afreolaidd
  • Trefnu canlyniadau gemau a chamddefnyddio chwaraeon
  • Deddfwriaeth a chodau ymddygiad
  • Cydraddoldeb a gwrth-wahaniaethu (materion sy'n ymwneud â dosbarth, hil, ethnigrwydd, crefydd a rhyw)
  • Amddiffyn plant a hawliau plant
  • Olympiaeth, heddwch a'r Cadoediad Olympaidd

Athletics stock shotBydd graddedigion y cwrs MAiSI hefyd yn cymryd rhan mewn lleoliadau ymarferol o fewn rhwydwaith helaeth y partneriaid gan gynnwys cyrff cynghori, ffederasiynau, gwneuthurwyr polisi a sefydliadau masnachol, yn ogystal â chyfleoedd cydweithio a hyfforddiant rhyngwladol helaeth.

Meddai cyfarwyddwr y cwrs yr Athro Mike McNamee o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe mai nod y cymhwyster yw proffesiynoli moeseg a llywodraethu chwaraeon a mynd i'r afael â llwgrwobrwyo, trefnu canlyniadau gemau, a bygythiadau eraill i onestrwydd chwaraeon.

Meddai, “Ar adeg pan fo hyder mewn gonestrwydd ym maes chwaraeon rhyngwladol ar bwynt isel, efallai bod y cwrs hwn yn un o'r cyfleoedd prin i ymateb yn effeithiol ac yn gyflym.  Bydd y cwrs hwn yn sefydlu moeseg a gonestrwydd chwaraeon yn broffesiwn newydd sydd wedi'i gydnabod yn rhyngwladol ym maes gweinyddu a llywodraethu chwaraeon yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.  Rydym am ddethol myfyrwyr o bob cwr o'r byd i ddatblygu 100 o arbenigwyr ôl-raddedig newydd rhwng 2016 a 2021. Bydd yr arbenigwyr newydd hyn yn mynd ymlaen i gyfoethogi ffederasiynau chwaraeon gyda'u harbenigrwydd mewn moeseg a gonestrwydd gan achosi chwyldro yn y byd chwaraeon.”