Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal dau Diwrnodau Agored Astudiaethau Ôl-raddedig i ddarpar fyfyrwyr y mis nesaf.
Ar ddydd Mercher, Mawrth 2, o 1pm tan 5pm, bydd Diwrnod Agored yng Nghampws Parc Singleton ar gyfer Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Coleg y Gyfraith, y Coleg Gwyddoniaeth, a'r Ysgol Feddygol (D.S. Mae diwrnodau agored ar wahân ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion).
Ac ar ddydd Mercher, Marwth 9, o 1pm tan 5pm, bydd Prynhawn Agored yng Nghampws newydd y Bae ar gyfer y Coleg Peirianneg a'r Ysgol Reolaeth.
Mae'r Brifysgol yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig ym mhob maes pwnc ac mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer ymchwil a chyrsiau ôl-raddedig a addysgir.
Yn ogystal â chanfod mwy am ysgoloriaethau a bwrsariaethau, bydd y Prynhawniau Agored Astudiaethau Ôl-raddedig yn rhoi'r cyfle i ddarpar fyfyrwyr:
- Ganfod mwy am gyfleoedd ymchwil a chyrsiau ôl-raddedig a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe;
- Cwrdd â myfyrwyr ôl-raddedig presennol a chlywed am eu profiadau astudio;
- Cwrdd â chynrychiolwyr cyrsiau a siarad â thiwtoriaid derbyn am opsiynau ymchwil;
- Siarad â'r staff a chael cyngor arbenigol ar wneud cais, llety, cyllid, gyrfaoedd a chefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol;
- Mynd ar daith dywysedig o'n cyfleusterau rhagorol i ôl-raddedigion yng Nghampws Parc Singleton a Champws y Bae.
Meddai Dr Jenny Clarke, Swyddog Recriwtio Ôl-raddedigion Prifysgol Abertawe: "Gall cymhwyster ôl-raddedig eich helpu i sefyll allan o'r dorf, cynyddu'ch enillion, a dod o hyd i gyflogaeth ar lefel broffesiynol neu reoli. Gall cyrsiau ôl-raddedig hefyd fod y ffordd ddelfrydol o newid gyrfa ac ar gyfer nifer o gyrsiau, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol yn y maes pwnc.
"Trwy fynychu diwrnod agored i ôl-raddedigion, cewch gyfle i siarad â staff a myfyrwyr am ddewisiadau cwrs, ariannu a sut beth yw bywyd fel myfyriwr ôl-raddedig.
"Mae pob prifysgol yn wahanol felly mae'n bwysig dod o hyd i'r un sy'n iawn i chi. Archwiliwch y cyfleusterau, ymgyfarwyddwch â’r campws, a sicrhewch fod y cyrsiau sydd ar gael yn bodloni'ch gofynion."
Am ragor o wybodaeth, neu i gadw lle ar un o'r Diwrnodau Agored, ewch i http://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/diwrnodagored/.
- Dydd Iau 25 Chwefror 2016 00.00 GMT
- Dydd Iau 22 Mawrth 2018 09.15 GMT
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049