Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau: Gweithgareddau Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ogystal â’r llu o ddigwyddiadau fydd ymlaen ar stondin Prifysgol Abertawe ar faes Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, bydd rhai o’n academyddion hefyd yn cynnal digwyddiadau yn y Lolfa Lên.

Arwydd Eisteddfod

 

 

 

 

 

 

 

 

O ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 6 Awst, bydd arlwy’r Brifysgol yn amrywio o sgyrsiau, lansiadau cyfrolau newydd, a thrafodaethau difyr.

Un o’r prif ddigwyddiadau bydd y derbyniad ar gyfer cyn-fyfyrwyr a chyfeillion Prifysgol Abertawe yng nghwmni’r Is-ganghellor, Richard B. Davies, am 12.30pm prynhawn dydd Iau. Dewch draw i gwrdd â hen gyfeillion!

I lawrlwytho copi o’r rhaglen lawn, cliciwch yma: Gweithgareddau Prifysgol Abertawe - Eisteddfod Genedlaethol 2016

Bydd gwybodaeth am ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ar gael ar stondin y Brifysgol drwy’r wythnos, felly galwch heibio am sgwrs neu i fachu prosbectws.

Rhif y stondin yw S09 a bydd ar agor rhwng 10am a 6pm bob dydd.

Dilynwch ni ar Twitter (@prif_aberatwe) neu chwiliwch am 'Prifysgol Abertawe' ar Facebook i gael y diweddaraf o'n stondin. 

Gobeithio y gwelwn ni chi yno!