Ffisegwyr yn procio gwrth-atomau i ganfod terfyn newydd ar atom gwrth-hydrogen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw yng nghylchgrawn Nature yn datgelu terfyn gwell ar gyfer gwefr yr atom gwrth-hydrogen sy’n datblygu dealltwriaeth ynghylch y rhesymau y tu ôl i ddiflaniad gwrthfater o’r Bydysawd cynnar.

Inside the ALPHA apparatus

Yn eu hymchwil  mae ffisegwyr o  Goleg Gwyddoniaeth  Prifysgol Abertawe ar y cyd â chydweithwyr o’r cydweithrediad rhyngwladol ALPHA yn CERN  yn dangos bod y terfyn gwell wedi’i gyflawni drwy brocio’r gwrth-atomau tra oeddent yn cael eu cadw mewn potel fagnetig.

Pe bai gwefr ganddynt, byddai’r atomau’n cael eu taflu allan o’r botel fagnetig wedi iddynt gael eu procio yn drydanol. Fodd bynnag, gan nad oedd unrhyw atomau wedi dianc, daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad fod y terfyn ar wefr bosibl yr atom gwrth-hydrogen yn llai na biliynfed o wefr electron.

Mae’r ymchwil gyfredol yn rhan o ymdrech eang gan nifer o ymchwilwyr i astudio gwrthfater mewn manylder er mwyn datrys y rhesymau y tu ôl i’w ddiflaniad o’r Bydysawd cynnar. Gwrth-atomau yw’r agosaf y gall gwyddonwyr fod yn y labordy i greu amgylchiadau fel y byddent mewn Bydysawd gwrthfater, ac yn hynny o beth, mae astudio eu nodweddion yn allweddol er mwyn datrys y dirgelwch hwn. 

Er y gwyddys bod atomau’n niwtral yn drydanol, yn ddiweddar bu modd dechrau astudio gwrth-atomau, a hynny yn benodol oherwydd ymdrechion arloesol ffisegwyr Abertawe a chydweithrediad ALPHA. Y diffyg gwrthfater sydd ar gael i’w astudio yw un o’r dirgelion mwyaf mewn ffiseg heddiw. Y ddealltwriaeth gyfredol yw na fyddai modd gwahaniaethu rhwng Bydysawd wedi’i wneud yn gyfan gwbl o wrthfater ac un oedd wedi’i wneud o fater. Fodd bynnag, ymddengys nad oes gwrthfater mewn crynswth yn y Bydysawd.      

Meddai’r Athro Madsen o’r adran ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe "Yr hyn yr ydym wedi’i wneud yw ceisio procio’r gwrth-atomau i ddatgelu unrhyw arwydd o wefr, ac nid ydym wedi gweld unrhyw ymateb - felly, hyd yn hyn, mae’r gwrthfater yn parhau i gadw ei gyfrinach. Rydym yn cynllunio mesuriadau mwy manwl yn edrych ar fanylion y strwythur atomig eleni."

Darllenwch yr ymchwil yma

Gwyliwch animeiddiadarbrawf ALPHA

Delweddau drwy garedigrwydd CERN.