Gwefan cyngor ar bleidleisio newydd yn cael ei lansio cyn etholiadau Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

‌Mae tîm o academyddion, dan arweiniad Dr Matt Wall, uwch-ddarlithydd gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi lansio gwefan ddwyieithog newydd sy’n cymharu barn wleidyddol unigolion â safbwyntiau a pholisiau’r prif bleidiau sy’n sefyll yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.

Pleidiau GwleidyddolMeddai Dr Matt Wall: “Mae’r syniad y tu ôl i wefan Cwmpawd Etholiad yn syml iawn. Mae’n gosod 30 cwestiwn sydd wrth wraidd y dadleuon gwleidyddol cyfredol yng Nghymru, ac yna yn trosi'r atebion i roi canlyniad ‘paru’ unigryw rhwng barn y defnyddiwr â safbwyntiau a pholisïau'r prif bleidiau.

“Mae'r wefan yn canolbwyntio ar feysydd datganoledig y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt e.e. iechyd, addysg, trafnidiaeth, yr economi Gymreig, yr amgylchedd, yn ogystal â phrosesau datganoli.”

Mae modd i unrhyw un roi cynnig ar ateb y 30 cwestiwn yma, er mwyn gallu dod i gasgliad goleuedig ynglŷn â safbwyntiau’r pleidiau ar brif bynciau trafod yr etholiad.

"Y nod yw annog pobl i roi ystyriaeth ddwysach ynghylch safbwyntiau gwleidyddol a pholisïau'r pleidiau, a'u galluogi i fwrw eu pleidlais yn hyderus ddydd Iau nesaf."‌