Lansio cofiant Gwenallt gan yr Athro Alan Llwyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd cofiant i un o feirdd disgleiriaf yr ugeinfed ganrif, D. Gwenallt Jones, ei lansio’n swyddogol yn Nhŷ’r Gwrhyd, Pontardawe, ar nos Wener 14 Hydref.

Cofiant D. Gwenallt Jones 1899 - 1968 yw ffrwyth ymchwil diweddaraf y Prifardd a’r Athro Alan Llwyd, a gafodd ei benodi’n Athro yn Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn 2013.

Wedi’i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa, dyma’r gyfrol ddiweddaraf yng nghyfres boblogaidd o gofiannau Alan Llwyd. Ymddangosodd ei gofiant dadleuol i Kate Roberts yn 2011, ei gofiant i R. Williams Parry yn 2013, a’i gofiant i Waldo Williams yn 2014. Galwyd pob un o’r cofiannau hyn yn gampweithiau.

Portread o fardd gwrthryfelgar ac o lenor aflonydd a geir yn y cofiant hwn. Mae ynddo lawer iawn o bethau newydd, a’r cyfan yn taflu goleuni newydd ar yrfa, bywyd a gwaith Gwenallt. Ymhlith y deunydd newydd hwn ceir tua thrigain o gerddi o waith Gwenallt na welsant olau dydd erioed o’r blaen.

Yr Athro Alan Llwyd a'r Athro Daniel G. Williams

Yr Athro Alan Llwyd gyda'r Athro Daniel G. Williams yn y lansiad.

“Mae’r cerddi hyn yn allweddol o safbwynt deall twf a datblygiad Gwenallt”, meddai Alan Llwyd. “Y rhain yw’r cerddi coll yng ngwaith Gwenallt, y cerddi sy’n pontio’r ffin rhwng yr awdlau rhamantaidd cynnar, ‘Ynys Enlli’, ‘Cyfnos a Gwawr’, ‘Y Mynach’, a cherddi aeddfed diweddarach Ysgubau’r Awen”.

Bu’r awdur hefyd yn ddigon ffodus i gael gafael ar ddogfen yn dwyn y teitl ‘Wanderings’, sef atgofion Albert Davies, cyfaill bore oes a chyfaill gweddill oes i Gwenallt, am anturiaethau’r ddau, gan gynnwys eu cyfnod yn y carchar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd Alan Llwyd hefyd afael ar y copïau gwreiddiol o lythyrau Gwenallt at Albert Davies, yn ogystal â chopïau gwreiddiol o’i lythyrau at ei gyfaill mawr arall, B. J. Morse. Yn ôl Alan Llwyd: “Mae’r llythyrau hyn gan Gwenallt at ei ddau gyfaill pennaf yn hynod o ddadlennol, o safbwynt y gwaith a’r bywyd, a’r ddau yn un yn aml.”

Mae Alan Llwyd hefyd yn cynnig tystiolaeth bendant ddiymwad ynghylch union amgylchiadau carcharu Gwenallt adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, gan olrhain ei gamau yn ystod y cyfnod cythryblus hwnnw yn ei hanes yn ofalus ac yn fanwl.

Er mai byr oedd Gwenallt o ran corffolaeth, yr oedd iddo bersonoliaeth ffrwydrol, ymfflamychol a natur wrthryfelgar a phrotestgar. Fe’i disgrifir gan ei gofiannydd fel ‘grenâd mewn gwniadur’.

Dyma gofiant cynhwysfawr a chaboledig, a hynod ddadlennol, i un o feirdd mwyaf Cymru.

Meddai Dr Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Braint oedd cael cynnal y digwyddiad hwn, ac roedd yn gwbl addas ein bod yn dathlu cyfrol arbennig yr Athro Alan Llwyd ar Gwenallt yn Nhŷ’r Gwrhyd, â’r ganolfan ynghanol bro mebyd y bardd ym Mhontardawe. O fewn Tŷ’r Gwrhyd mae englyn gan Alan Llwyd sy’n cyfeirio at Gwenallt, gan ddweud:

 “Ni bydd Gwenallt yn alltud mwy’n ei gwm,

  nac iaith dyddiau’i febyd,

  na’r Gweithiau ar gau i gyd

  tra agorir Tŷ’r Gwrhyd.”

ac mae noson fel noson y lansiad yn sicrhau bod Cymreictod a threftadaeth Cwm Tawe a’r cylch yn cael eu dathlu a’u hamlygu o fewn canolfan sydd wedi ei chreu’n bwrpasol i ennyn balchder yn y pethau hynny."