Offeryn newydd a fydd yn helpu pobl hŷn i raddio eu cymuned

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi creu offeryn arolwg syml a all helpu pobl hŷn i raddio eu cymuned ac y gellid ei ddefnyddio i gynllunio cymdogaethau preswyl yn y dyfodol sy’n gyfeillgar i bob grŵp oedran ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles.

OPERAT research

Creodd  yr Athro Vanessa Burholt, Dr Charles Musselwhite a Dr Matthew Roberts o’r Ganolfan Heneiddio Arloesol  yr Offeryn Asesu Amgylchedd Preswyl Allanol i Bobl Hŷn (OPERAT) fel rhan o brosiect ymchwil wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru  a gyhoeddwyd yn Biomed Central.  Mae’r dull arsylwadol effeithiol newydd hwn ar ffurf holiadur syml y gellir ei ddefnyddio i asesu addasrwydd ardaloedd preswyl i bobl hŷn â galluoedd corfforol a gwybyddol gwahanol, sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Datblygodd y tîm ymchwil yr offeryn i helpu i gynllunio ar gyfer datblygu cymunedau sy’n ystyriol o oedran ac sy’n cefnogi pobl a chanddynt ddementia mewn ymateb i boblogaeth y DU sy’n heneiddio gan fod ymchwil sy’n bodoli eisoes yn dangos bod cysylltiad sefydledig rhwng yr amgylchedd allanol a iechyd a lles.

Meddai Dr Charles Musselwhite: “Gall pobl sy’n byw mewn amgylcheddau deniadol brofi lles seicolegol oherwydd llai o densiwn, dicter ac iselder ond mewn ardaloedd lle mae sbwriel, graffiti, trosedd neu ofn troseddau, gall pobl brofi straen ac maent mewn peryg o wneud llai o weithgarwch corfforol ac arwahanrwydd cymdeithasol sydd oll yn gysylltiedig â salwch. Hefyd mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod y rhan fwyaf o bobl hŷn am ‘heneiddio lle y maent’, ac felly mae sefydlu amgylcheddau dysgu cadarnhaol yn hollbwysig i les pobl hŷn.”  

Datblygodd y tîm ymchwil offeryn OPERAT i asesu faint yr oedd pobl yn mwynhau byw yn eu cymdogaeth, a oeddent yn teimlo ei fod yn lle dymunol i fyw ac a oeddent yn teimlo’n ddiogel naill ai yn ystod y dydd neu gyda’r nos, er mwyn helpu awdurdodau lleol i gynllunio amgylcheddau o’r fath yn y dyfodol.  Gobeithir y bydd pobl hŷn o amrywiaeth o gefndiroedd yn gallu defnyddio’r offeryn eu hunain ond hefyd y gall cynllunwyr a dylunwyr ddefnyddio’r offeryn i helpu i ganfod pa mor gyfeillgar i bobl hŷn y mae eu cymunedau lleol.

Mae’r offeryn yn annog cyfranogwyr i asesu eu cymdogaeth dan bedair prif thema:

  • Elfennau naturiol – sy’n asesu ardaloedd gwyrdd a thirweddau
  • Anghwrteisi a niwsans – sy’n graddio lefelau esgeulustod a dirywiad
  • Symud o gwmpas a symudedd  – sy’n ystyried pa mor rhwydd y gall pobl deithio o gwmpas yr ardal
  • Gweithredu tiriogaethol -  sy’n gwerthuso a oes gan breswylwyr ddiddordeb personol yn eu cymdogaeth

Meddai’r Athro Burholt: “Rydym yn credu y gall offeryn OPERAT wneud cyfraniad cadarnhaol at y gwaith o gynllunio ein cymunedau yn y dyfodol. Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n heneiddio ac mae hyn wedi arwain at anghenion penodol o ran tai a chymunedau. Oherwydd bod yr amgylchedd allanol yn dylanwadu ar iechyd a lles, mae bod ag amgylcheddau byw da sydd o fudd i’r rhai sy’n byw ynddynt yn hollbwysig ac mae angen polisïau cyhoeddus i ymateb i hyn er mwyn cefnogi byw yn y gymuned drwy ddatblygu cymunedau sy’n ystyriol o oedran ac sy’n cefnogi pobl a chanddynt ddementia.”

Ceir OPERAT yma