Prifysgol Abertawe’n cipio’r wobr gyntaf yng nghategori Cyrsiau a Darlithwyr Gorau yng ngwobrau WhatUni 2016

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ar 15 Ebrill, derbyniodd Prifysgol Abertawe'r wobr aur yng nghategori Cyrsiau a Darlithwyr Gorau yng ngwobrau WhatUni. Hefyd, cipiodd Abertawe’r ail wobr am ei gwaith Rhyngwladol, a’r drydedd wobr yng nghategorïau Prifysgol y Flwyddyn a Chlybiau a Chymdeithasau.

‌Mae graddfeydd WhatUni yn seiliedig ar gyfartaledd miloedd o adolygiadau a gyflwynir gan fyfyrwyr, ac fe’u cyhoeddir ar wefan WhatUni.com.

Derbyniodd y Brifysgol naw enwebiad allan o ddeg categori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni eleni:

  • Prifysgol y Flwyddyn
  • Cefnogaeth i fyfyrwyr
  • Rhagolygon Gyrfa
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cyrsiau a Darlithwyr
  • Cyfleusterau’r brifysgol
  • Llety
  • Clybiau a Chymdeithasau
  • Rhyngwladol

WUSCAMae’r graddfeydd newydd yn cynnig dull amgen, diduedd dan arweiniad myfyrwyr i ddarpar fyfyrwyr gael barn ar brifysgolion na’r systemau traddodiadol sy’n mesur barn ar brifysgolion. Eleni cafodd 25,000 o adolygiadau eu cyfrif; fe wnaeth 125 o brifysgolion gwrdd â'r trothwy lleiaf i gael eu hystyried ar gyfer Gwobr Dewis y Myfyrwyr; a chafodd 39 o brifysgolion eu henwebu.

Croesawyd y newyddion gan yr Athro Steve Wilks: “Rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith ein bod wedi ennill y wobr gyntaf am y Cyrsiau a Darlithwyr Gorau. Rydym wedi gwneud yn dda dros ben eleni, ar ôl cael ein henwebu mewn naw category allan o ddeg, a  derbyn pedwar gwobr yn y seremoni wobrwyo.

“Mae Prifysgol Abertawe yn ymroddedig i ddarparu profiad ardderchog i fyfyrwyr, ac mae derbyn y gwobrau hyn yn  adlewyrchu ein hymroddiad i ragoriaeth y profiad dysgu a'r amgylchedd cefnogol a ddarparwn i'n myfyrwyr."

Meddai Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol rhiant-gwmni Whatuni.com, Grŵp Hotcourses, "Mae Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni yn ysbrydoli ac yn arwain myfyrwyr o bob cefndir i ddewis y brifysgol gywir iddyn nhw. Gyda chanlyniadau 2016 mor fuan ar ôl y Papur Gwyrdd a'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddewis myfyrwyr, rhagoriaeth addysgu a symudedd cymdeithasol, dyma'r amser pwysicaf erioed i gasglu a dadansoddi cyfraddau bodlonrwydd myfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn hynod falch o'r gwaith mae ein tîm wedi'i gyflawni er mwyn creu safleoedd eleni, sy'n cynnwys pedwar sefydliad newydd ar ddeg a thwf o 25% ym maint y sampl, wrth i ragor o fyfyrwyr ddarganfod pwysigrwydd eu llais eu hunain o ran newid polisi, nid yn eu sefydliad nhw yn unig, ond ar draws y sector cyfan."