Prifysgol yn sefydlu Chapter Cyn-fyfyrwyr De Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhaliodd Prifysgol Abertawe ei digwyddiad Chapter Cyn-fyfyrwyr De Cymru agoriadol ar ddydd Sadwrn, 10fed Medi.

‌Nod y digwyddiad oedd dod â chyn-fyfyrwyr o’r ardal leol ynghyd, gan ddarparu cyfleoedd rhwydweithio a chymdeithasu rhagorol. Cynhaliwyd yn y Neuadd Fawr eiconig ar ein Campws y Bae newydd ym Mhrifysgol Abertawe, gyda theithiau tywys yn rhoi cyfle i’r gwesteion gael golwg ar y cyfleusterau o safon fyd-eang.

South Wales Alumni Chapter 1Croesawodd y tîm Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr oddeutu 200 o westeion i’r digwyddiad a oedd yn cynnwys cyn-fyfyrwyr drwy’r degawdau o un fenyw ryfeddol a raddiodd yn 1943 i’r graddedigion diweddaraf yn 2015 a 2016. Cawsom ymwelwyr o Lundain a’r Unol Daleithiau hyd yn oed!

Roedd y digwyddiad hefyd yn cyd-fynd â Phenwythnos y Teulu yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain yn Amgueddfa’r Glannau Abertawe sydd gerllaw, a ddenodd ymwelwyr o ledled y DU a thu hwnt.

Roedd y ddau ddigwyddiad dan sylw yn rhoi cyfle unigryw i ymgysylltu â Phrifysgol Abertawe.

Bu i Dr Neil Hennessy, a raddiodd o Abertawe yn 1999 gyda BA mewn Cymraeg, gael ei urddo fel Pennaeth cyntaf Chapter De Cymru.

‌Nawr mae Dr Hennessy yn ddarlithydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd ar ôl cwblhau MSc mewn Gwyddor Hyfforddi. Yn ogystal mae Dr Hennessy yn ddyfarnwr elitaidd ac mae’n gweithio’n agos gyda’r sgwadiau cenedlaethol uwch a gradd oedran Undeb Rygbi Cymru, gan ddarparu cymorth technegol a dadansoddi.

South Wales Alumni Chapter 2Daw Dr Hennessy ag egni a brwdfrydedd i’r rôl ac mae wedi gosod cynlluniau ar gyfer y Chapter eisoes.

Dywedodd Dr Hennessy: “Wedi treulio wyth mlynedd fel myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, rwy’n edrych ymlaen yn fawr ac mae’n anrhydedd cael mynd i’r afael â rôl Pennaeth y Chapter. Gobeithiaf ddod â chyn-fyfyrwyr o’r un meddylfryd at ei gilydd ledled de Cymru a thu hwnt i gynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r Brifysgol a’i myfyrwyr.

"Bydd Chapter yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu sgiliau personol, academaidd a phroffesiynol i raddedigion cenedlaethau’r dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe.”