Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe, i weithredu fel canolbwynt i ŵyl y dyniaethau am yr ail flwyddyn yn olynol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei dewis fel un o saith canolbwynt ar gyfer gwyl Being Human 2016, unig ŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU.

Mi fydd thema eleni, ‘gobaith ac ofn’, yn ysbrydoli dros 250 o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ar draws 45 o refi a dinasoedd, gan gynnwys wyth digwyddiad yn ninas Abertawe.

Being HumanBellach yn ei thrydedd flwyddyn, arweinir yr ŵyl gan Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, a'r Academi Brydeinig.

Yn ystod wythnos yw ŵyl 17 - 25 Tachwedd 2016, mi fydd digwyddiadau Abertawe ar thema ‘Breuddwydion, Demoniaid a Datgeliad’ eich ysbrydoli i gyfleu eich gobeithion a’ch ofnau mewn ffyrdd creadigol. 

Ymunwch â ni ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys:

  • noson yng nghwmni Michael Morpurgo, un o awduron mwyaf poblogaidd y DU;
  • sesiwn rhyngweithiol gyda’n arbenigwr demoniaid a’r Aifft, Dr Kasia Szpakowska;
  • arddangosfa unigryw o ffotograffiaeth y cyhoedd ar thema arfordir Abertawe, ynghyd â dangosiad o ffilm Owen Sheers’ On the Sea’s Land (Ar-for-dir);
  • cyfle i rannu’ch straeon am eich gobeithion a’ch ofnau gyda’n tîm Ysgrifennu Creadigol arobryn;
  • noson o farddoniaeth a dathlu yng nghwmni bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016, Aneirin Karadog.  

Aneirin Karadog

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Darperir yr holl ddigwyddiadau hyn gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, mewn partneriaeth â’r canlynol: Amgueddfa Abertawe’ Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; Tidal Lagoon Power; Canolfan Adnoddau Llansamlet; Canolfan Fferm Clyne, Cwmni Theatr Volcano; Coastal Housing; Trust New Art; Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; Sound UK a CHERISH-DE.

Meddai Dr Elaine Canning, Pennaeth Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym yn falch dros ben ein bod yn rhan o’r ŵyl arbennig hon unwaith eto eleni, ac yn ddiolchgar iawn i’r trefnwyr am roi’r cyfle i ni ddarparu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau. Bydd ein thema 'Breuddwydion, Demoniaid a Datgeliad’ yn cynnig ffyrdd ni ymgysylltu â'r cyhoedd trwy amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys celf a chrefft, ffotograffiaeth, ysgrifennu creadigol a cherddoriaeth mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws y ddinas."