Stampiau coffa yn dathlu ymchwil cadwraeth crwbanod y môr yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yr wythnos hon bydd Gweinyddiaeth y Diriogaeth Brydeinig yng Nghefnfor yr India yn rhyddhau stampiau coffa yn dathlu cynnal ymchwil cadwraeth crwbanod y môr yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India (BIOT) gan wyddonwyr Brifysgol Abertawe (y Deyrnas Unedig) a Phrifysgol Deakin (Awstralia) ar y cyd â Gweinyddiaeth y Diriogaeth.

Mae BIOT yn ynysfor anghysbell yng nghanol Cefnfor yr India. Gorweddai'r cylchynysoedd yng nghanol un o'r ardaloedd morol gwarchodedig mwyaf yn y byd, ac maent yn cynnwys ystod o gynefinoedd morol dihalog, gan gynnwys creigresi cwrel a gwelyau morwellt. Mae'r ynysoedd yn cynnal nifer o boblogaethau nythol mawr o grwbanod y môr gwyrdd a gwalchbig hefyd, y maent yn teithio o safleoedd ledled Cefnfor yr India i nythu ar y traethau tywodlyd sydd ar bob cylchynys. Mae'r grŵp ymchwil, a arweinir gan Nicole Esteban (Abertawe) a Graeme Hays (Deakin), yn asesu statws y poblogaethau nythol hyn a'r bygythiadau.

Fel rhan o'r ymchwil, mae'r tîm yn defnyddio lloerenni a thagiau i ddilyn y crwbanod er mwyn mesur eu hystod lawn, gan ganiatáu ar gyfer targedu rheoli cadwraeth mewn safleoedd allweddol ar draws basn y môr. Mae'r canlyniadau cychwynnol wedi bod yn syfrdanol, gyda rhai crwbanod benywaidd a nythodd yn BIOT yn teithio dros 4,000km i dir mawr Affrica i fwydo y tu allan i'r tymor cenhedlu. Dengys y canfyddiadau hyn pam bod angen cydweithrediadau academaidd a llywodraethol rhwng cenhedloedd er mwyn diogelu crwbanod y môr yn llwyr. Mae'r stampiau'n cynnwys lluniau o grwbanod y môr gwyrdd a gwalchbig a thaflen wybodaeth am fioleg crwbanod y môr yn BIOT.

Set of turtle stamps