Technegau ymchwil digidol i helpu i ymddatrys dirgelion Oes y Tuduriaid wrth lansio prosiect Mary Rose newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Am y tro cyntaf, mae olion dynol ac arteffactau eraill a ddarganfuwyd ar long ryfel Oes y Tuduriaid, y Mary Rose, wedo cael eu rhyddhau i gynulleidfa fyd-eang ar ffurf adnoddau digidol 3D.

Rhyddhawyd y delweddau ar wefan www.virtualtudors.org ac mae'n cynnwys adran i'r cyhoedd ac adran ymchwil.

Cafodd y modelau ffotogrametreg hyn o benglogau dynol sydd o raddfa ymchwil ac yn fanwl gywir, ynghyd â nifer o arteffactau, eu cynhyrchu ar gyfer prosiect ymchwil Prifysgol Abertawe a leolir yn Y Coleg Peirianneg, i asesu a oes modd i ddelweddau ffotogrametreg gael eu defnyddio gan ymchwilwyr o amgylch y byd yn hytrach na defnyddio'r olion go iawn. 

Whetstone holderTra bod nifer o brosiectau sy'n dal arteffactau amgueddfeydd a chasgliadau prin ar ffurf ddigidol gan sicrhau eu bod ar gael ar-lein, mae'r prosiect hwn wedi creu adnoddau 3D rhyngweithiol sy'n ddigon manwl i gasglu ymchwil ystyrlon gan y gymuned ymchwil fyd-eang.  

Mae'r adran ymchwil y wefan yn cynnwys 10 penglog oddi ar y Mary Rose a fydd ar gael i esgyrnegwyr o amgylch y byd a chânt eu hannog i gymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil fyd-eang hon ar effeithiolrwydd olion digidol ar gyfer cynnal gwaith dadansoddi esgyrnegol. Mae'r delweddau o safon ddigon uchel i alluogi ymchwilwyr ac esgyrnegwyr i gynnal gwaith dadansoddi esgyrnegol ar y penglogau a chwblhau holiadur ymchwil.

Mae'r adran gyhoeddus yn dangos modelau 3D rhyngweithiol o:

  • benglog un o seiri y Mary Rose.
  • detholiad o'i offer, gan gynnwys plaen pren a daliwr carreg hogi.
  • gwrthrychau eraill a ddarganfuwyd ar y Mary Rose gan gynnwys un o ddwy lwy bren yn unig ar fwrdd y llong; a phanel pren hardd wedi'i gerfio sydd hefyd yn un o ddau yn unig a ddarganfuwyd ar y llong.

Gwelwch fodel 3D rhyngweithiol o'r Saer yma

Gwelwch fodel 3D rhyngweithiol o ddaliwr carreg hogi yma

Mae Prifysgol Abertawe wedi gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Mary Rose a Phrifysgol Rhydychen ar y prosiect.  Cychwynnodd Prifysgol Abertawe weithio gydag Ymddiriedolaeth Mary Rose tua phum mlynedd yn ôl ar brosiect yn cyfuno gwyddor chwaraeon ac esgyrneg.

Ymchwiliodd y prosiect cyntaf hwn fiomecaneg saethyddiaeth yn ystod y canol oesoedd ac yn ystod Oes y Tuduriaid.  Dros y blynyddoedd, mae'r cydweithio hwn wedi datblygu i gynnwys argraffu 3D, bioleg foleciwlaidd 3D a thechnolegau delweddu 3D.  Mae'r prosiect presennol wedi esblygu yn uniongyrchol o astudiaethau delweddu a ddefnyddiwyd i fesur gwahaniaethau nodweddion ffisegol mewn esgyrn yng nghasgliad y Mary Rose.    

Y Saer

Daethpwyd o hyd i'r saer a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y prosiect cyhoeddus ar y bwrdd isaf, yn syth o dan gaban y Pen-saer gyda nifer o gyfarpar gwaith pren wrth ei ymyl. Mae adluniad o'i wyneb wedi'i greu ac mae delwedd o'i wyneb wedi'i harddangos yn Amgueddfa'r Mary Rose.

Mae gwaith dadansoddi ar ei olion yn datgelu ei fod, mwy na thebyg, yng nghanol ei 30au neu yn ei 30au hwyr. Roedd ei daldra ychydig dros 1.72 metr (5 troedfedd, 7 modfedd)  ac roedd yn ddyn cryf, cyhyrog. Roedd ei ddannedd yn wael, ac roedd llawer o dartar arnynt. O ganlyniad i grawniad ar ei ên uchaf roedd yn gallu cnoi ar ochr dde ei geg yn unig.

Hefyd roedd ganddo arthritis yn ei asgwrn gefn, ei asennau a'i glaficl chwith ac anaf ar draws ei ael dde a all fod o ganlyniad i hen anaf. Gwyddys trwy ffynonellau hanesyddol y byddai saer wedi'i leoli ar ddec o dan y llinell ddŵr yn ystod y rhyfela fel bod modd iddo atgyweirio unrhyw ddifrod i'r llong ar unwaith. 

Meddai Dr Alex Hildred Pennaeth Ymchwil a Churadur Olion Dynol Ymddiriedolaeth Mary Rose: "Roedd cloddio'r caban fel camu i weithdy diffaith - roedd offer mewn basgedi o dan fainc weithio, prosiectau wedi'i hanner gorffen, darnau o bren - hyd yn oed set tabler y Saer ayyb.  Mae darganfod un o ail setiau offer y saer ar y dec islaw yn ein galluogi i edrych i wyneb un o aelodau pwysicaf y criw; a daw'r llong yn fyw."

Facial reconstruction of the Carpenter. Courtesy of the Mary Rose Trust.

Delweddau'r penglog a sut y cawsant eu dal

Y rhesymau pam bod delweddau o safon mor uchel yn hanfodol ar gyfer y prosiect yw bod esgyrneg ddynol, sef astudiaeth wyddonol ar olion ysgerbydol dynol, yn dibynnu ar archwilio'r esgyrn yn weledol.  

Meddai Nick Owen, Biofecanydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Abertawe; "Ar gyfer rhai nodweddion gellir defnyddio lens law ond cynhelir y mwyafrif o waith archwilio neu waith dadansoddi gan y llygad noeth. Gall esgyrnegwyr amcangyfrif nifer o nodweddion dynol yn fanwl gywir, er enghraifft, rhyw a thras, ac adnabod heintiau penodol y dioddefodd yr unigolyn ohonynt megis y llechau a'r clefri poeth. Yn gyffredinol, mae asesu nodweddion yn fwy cadarn wrth ddefnyddio ysgerbwd cyflawn, fodd bynnag, gellir cael llawer o wybodaeth trwy ddadansoddi penglog."

Mae'r astudiaeth bresennol yn cynnwys dal tua 120 o ddelweddau llonydd digidol o ansawdd uchel ar gamera Sigma DP2 Quattro, cydraniad effeithiol o 39 megapicsel y ddelwedd ar gyfer pob penglog.  Ar ôl hynny caiff y delweddau hyn eu cyfuno yn ddigidol gan ddefnyddio meddalwedd Agisoft Photoscan i greu gwrthrych 3-D sy'n realistig yn ffotograffeg. Golygodd hyn fod ymchwilwyr wedi casglu tua 4.5 gigapicsel o ddata crai ar gyfer pob penglog gan gyfuno elfennau o bob delwedd i greu'r model 3-D. Yn syfrdanol, mae'r ddelwedd a grëwyd yn cynnwys tua 15 megapicsel yn unig sy'n golygu bod modd ei gwylio a'i thrin, yn amser go iawn, ar liniadur neu ar lechen sydd â manyleb gymedrol gan ddefnyddio Sketchfab mewn porwr gwe.

Arwyddocâd y prosiect

Meddai Dr Richard Johnston gwyddonydd a pheiriannydd deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae hon yn astudiaeth bwysig wrth i amgueddfeydd ac ymchwilwyr ddigideiddio mwy a mwy o'u casgliadau. Mae gweithdrefn wedi'i hoptimeiddio a gwerthusiad gwyddonol ar effeithiolrwydd ffotogrametreg at ddefnydd mewn astudiaethau ymchwil yn hanfodol bwysig. 

"Gall y dechnoleg hon, a'r awydd sydd gan amgueddfeydd ac ymchwilwyr i agor eu casgliadau i gymunedau byd-eang, mwy, gan gynnwys y cyhoedd, gael goblygiadau enfawr ar yr archwiliadau sy'n cael eu cynnal ac ar gyflymder gwyddoniaeth. Mae hefyd yn agor adnoddau gwerthfawr i ymchwilwyr o amrywiaeth o gefndiroedd."

Gwelwch fideo 3D rhyngweithiol o benglog y saer isod.