Y Brifysgol yn lansio ysgol haf ieithoedd hynafol 2016

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd pobl a hoffai ddysgu ieithoedd hynafol yn cael y cyfle i ddysgu Lladin, Groeg, Lladin Ganoloesol a hyd yn oed Hieroglyffau mewn ysgol haf a drefnwyd gan Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Ancient temple, RhodesBydd staff o’r Adran Hanes a’r Clasuron yn cynnal yr ysgol haf  o’r 17eg i’r 30ain o Orffennaf 2016, ac mae’r cyrsiau’n cyfateb i semester o’r iaith yn y Brifysgol. Bydd y cyrsiau dwys ar lefelau amrywiol ac maent yn cynnwys Lladin a Groeg ar lefel Dechreuwyr, Ôl-ddechreuwyr, Canolradd, Canolradd-Uwch, ac Uwch, yn ogystal ag Eiffteg a Lladin Ganoloesol ar lefel Dechreuwyr ac Ôl-ddechreuwyr. 

Mae’r cyrsiau ar agor i bobl o bob oedran o 12 i fyny, ond mae’n rhaid i oedolyn fynychu a chymryd cyfrifoldeb llawn am blant rhwng 12 a 18 oed.

Meddai cyfarwyddwr yr Ysgol Haf, Dr Evelien Bracke: “Bydd aelodau o staff o’r Adran Hanes a’r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe’n dysgu’r dosbarthiadau yn ogystal ag academyddion ac athrawon ysgol eraill. Caiff yr elw o’r Ysgol Haf ei ddefnyddio i ariannu ein gweithgareddau allgymorth, megis y prosiect Llythrennedd trwy’r Clasuron sy’n mynd â’r Clasuron, ac yn benodol yr ieithoedd hynafol, allan i ysgolion mewn ardaloedd amddifad lleol.”

Gall unrhyw un a hoffai gymryd rhan ymgeisio ar-lein a hefyd wneud cais am fwrsariaethau.