Ymchwilwyr NRN yn darganfod bod bacteria sy'n "disgleirio yn y tywyllwch" yn ymateb i feysydd trydanol y microdonau sy'n cael eu hallyrru gan ddyfeisiau symudol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae datblygiadau technolegol wedi gweddnewid ein ffordd o fyw - gyda thechnolegau ar sail amleddau radio a microdonau'n cael eu dyfeisio a'u datblygu drwy'r amser i ddiwallu anghenion ein hamgylchedd trefol modern.

NRN vibrio fisheri 1Rhaid gofyn y cwestiwn pa effaith mae'r allyriadau hyn yn ei chael ar ein hiechyd. Mae cyfathrebu, teithio a thriniaeth cyflyrau sy'n peryglu bywyd, megis canser a chlefyd y galon, i gyd yn dibynnu ar amrywiaeth o amleddau radio a microdonau, o radar i abladiad thermol.

Mae ymchwilwyr sy'n cael eu hariannu gan y  Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol mewn Peirianneg a Deunyddiau Uwch (NRN) a arweinir gan Brifysgol Abertawe, wedi tynnu sylw at y mater hwn gyda'u gwaith arloesol diweddaraf, a gyhoeddwyd yn Applied Physics Letters, sy'n mynd i'r afael â'r risg sy'n deillio o'r technolegau hyn ar lefel foleciwlaidd ein cyfansoddiad biolegol. 

Meddai Dr Catrin F Williams o Brifysgol Caerdydd, arweinydd y tîm: "I fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn, rydym yn mabwysiadu ymagwedd 'o'r gwaelod i fyny'.  Ein nod cyntaf yw deall pa ryngweithiadau sy'n digwydd ar y lefel is-gellol neu foleciwlaidd. Wedyn, byddwn yn cynyddu'r cymhlethdod er mwyn deall beth sy'n digwydd ar lefel y  person cyfan, h.y. ydy'r rhyngweithiadau hyn yn achosi canlyniadau therapiwtig (triniaeth) neu rai dinistriol (afiechyd)". 

I ddechrau, bu'r tîm yn ymchwilio i'r materion biolegol hyn drwy ddefnyddio bacteriwm morol ymoleuol, Vibrio fischeri.

NRN vibrio fisheri 2Gan ddefnyddio'r bacteriwm penodol hwn, roeddent yn gallu ymchwilio i'r effaith y byddai microdonau yn ei chael ar olau sy'n cael ei hallyrru o'r organeb hon drwy ddefnyddio meysydd electromagnetig wedi'u pylsio.  Ar ôl gwahanu'r meysydd trydanol a magnetig gan ddefnyddio cyseinydd microdonau, dangosodd y canlyniadau fod y bacteria yn ymateb i arbelydredd ac yn adfer yn yr un modd dro ar ôl tro. Roedd y canlyniad hwn yn arwyddocaol, gan amlygu rhyngweithio uniongyrchol rhwng organeb fyw a maes trydanol microdon, fel y rhai sy'n cael eu cynhyrchu gan dechnoleg ffonau symudol.

Ar hyn o bryd, mae safonau diogelwch yn amrywio'n fawr ledled y byd mewn perthynas â chysylltiad pobl â meysydd electromagnetig; mae rhai llywodraethau o'r farn mai effeithiau thermol meysydd electromagnetig yn unig sy'n beryglus, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol sy'n ategu'r cysylltiad rhwng mecanweithiau meysydd electromagnetig, heblaw am y rhai thermol a'r effaith ganlyniadol ar ein hiechyd.

Er bod yr ymchwil yn ei ddyddiau cynnar, mae'r canlyniad yn annog Dr Williams a'i thîm i ddatblygu eu canfyddiadau ymhellach, gan ddefnyddio'r system arbrofol hybrid hon i ddarganfod yr effaith y gallai'r microdonau hyn ei chael ar systemau biolegol eraill, megis meinwe byw, celloedd mamaliaid mewn meithriniad, yn ogystal â'r effaith ar gydrannau celloedd wedi'u puro.

"Mae ffonau symudol gan filiynau o bobl ledled y byd felly, er lles y cyhoedd, dylem ddilyn pob trywydd posib i ymchwilio i effeithiau thermol ac eraill meysydd electromagnetig," ychwanegodd Dr Williams. "Mae'r  canlyniadau therapiwtig posib yn cynnwys mireinio gweithdrefnau abladiad thermol drwy ficrodonau, sy'n cael eu defnyddio'n helaeth i drin arhythmia'r galon a chanser."

NRN vibrio fisheri 3Gall cydweithrediadau â sefydliadau iechyd, megis Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru, fod yn hollbwysig i wella dealltwriaeth o ganlyniadau bywyd modern ar gyfer ein horganau hanfodol, hyd yn oed i'r effaith gymdeithasol ar ddatblygiad plant a allai ddeillio o gysylltiad â thechnolegau diwifr.

Meddai Dr Williams: "Mae'r prosiect hwn yn ei ddyddiau cynnar o hyd; felly, does dim modd dweud yn bendant a fydd unrhyw un o'r effeithiau rydym wedi arsylwi arnynt yn effeithiol mewn sefyllfa in vivo gyda phobl. Fodd bynnag, cam nesaf ein hymchwil yw defnyddio'r sefyllfa arbrofol a ddisgrifiwyd yn y papur i ymchwilio i effeithiau meysydd microdonau ar gelloedd byw calon ddynol  drwy gydweithio â Dr Christopher George yn Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru."

Er nad oes tystiolaeth eto yn y boblogaeth gyffredinol i ddangos gwir effaith y rhyngweithio hwn, mae Dr Williams a'i thîm gam yn nes at ddatgelu effeithiau meysydd electromagnetig microdonau ar ein hiechyd. Nid yw'r cwestiwn bellach yn ystyried peryglon posib y meysydd magnetig a ddefnyddir mewn eitemau pob dydd, o Wi-Fi i'n ffonau, yn hytrach mae'n edrych yn uniongyrchol ar y trawsyriannau o'r eitemau beunyddiol rydym yn dibynnu arnynt i raddau helaeth.

I weld y papur, ewch i: http://scitation.aip.org/content/aip/journal/apl/109/9/10.1063/1.4961970.