Ymchwilydd Seicoleg yn Abertawe, Amy Jenkins, yn ennill Rownd Derfynol Ranbarthol Caerdydd FameLab 2016

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Llongyfarchiadau i'r myfyriwr PhD Seicoleg trydedd flwyddyn, Amy Jenkins, a enwyd fel enillydd Rownd Derfynol Ranbarthol Caerdydd cystadleuaeth cyfathrebu gwyddoniaeth FameLab 2016 neithiwr (nos Iau, 25 Chwefror).

Amy Jenkins - FameLab 2016Nod FameLab yw dod o hyd i gyfathrebwyr mwyaf dawnus y Deyrnas Unedig mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) a'u cefnogi.

Mae gan y cystadleuwyr dair munud yn unig i gyfleu cysyniad gwyddonol o'u dewis, a siaradodd Amy, myfyriwr yn Adran Seicoleg Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe, am y pwnc 'Subjective Cognitive Disorder' yn y noson Techniquest After Hours.

Mae PhD Amy yn cynnwys nodweddu amhariad gwybyddol goddrychol mewn perthynas â chlefyd Alzheimer cyn-glinigol, gan ganolbwyntio ar archwilio uniondeb prosesu mewn perthynas â sylw yn yr anhwylder hwn. Nod ei hymchwil yw gwella dealltwriaeth o newidiadau yn y cof a gwybyddiaeth sy'n gysylltiedig â heneiddio goddrychol.

Bydd Amy nawr yn mynd i Westy Cheltenham Park o 1 i 3 Ebrill ar gyfer penwythnos dosbarth meistr cyfathrebu gwyddoniaeth FameLab, cyn cwblhau rownd nesaf y gystadleuaeth i ddod o hyd i enillydd UK FameLab 2016.

Bydd enillydd UK FameLab 2016 yn derbyn £1,000 a hyd at £750 i'w wario ar weithgarwch cyfathrebu gwyddoniaeth.

Bydd pob enillydd cenedlaethol hefyd yn mynd ymlaen i gystadlu yn rownd derfynol ryngwladol y gystadleuaeth yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham The Times fis Mehefin 2016, a fydd yn cynnwys mwy na 25 o gystadleuwyr eraill o ledled y byd.

Pob lwc i Amy yn y rownd nesaf!