Abertawe’n dod y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill statws cyfeillgar i wenyn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cynnwrf ar draws y bae wrth i Brifysgol Abertawe ddod y Brifysgol gyntaf i’w chydnabod gan wobr statws Cyfeillgar i Wenyn.

Bee friendly award logoMae’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru’n cydnabod y gwaith a wneir gan Brifysgol Abertawe i ddenu bywyd gwyllt i ffynnu ar ei champysau. 

Credir mai’r fenter hon yw’r gyntaf o’i math yn y byd a’i nod yw annog pobl i helpu pryfed peillio, gan gynnwys gwenyn a gloÿnnod byw.

Meddai Ben Sampson, Swyddog Amrywiaeth y Brifysgol: “Ers sawl blwyddyn bellach, bu Prifysgol Abertawe’n gweithio i wella’i champysau ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r garddwyr wedi gwneud gwaith gwych wrth blannu ardaloedd â blodau â chyfoeth o baill a neithdar, gan adael ardaloedd â gwair heb ei dorri a chan greu pentyrrau o foncyffion a changhennau i bryfed wneud eu cartrefi ynddynt. Mae gwestai bygiau wedi’u gosod ar lawer o’r adeiladau a chyflwynwyd cychod gwenyn felly mae’n fendigedig bod y gwaith hwn yn cael ei gydnabod yn swyddogol.”

 Bee friendly award 2Meddai Dr Dan Forman, uwch-ddarlithydd mewn ecoleg yn y Coleg Gwyddoniaeth : “Gostyngodd niferoedd gwenyn mêl gan 25 y cant yng Nghymru rhwng 1985 a 2005. Mae niferoedd gloÿnnod byw, pryfed hofran a gwyfynod hefyd yn gostwng wrth i’w cynefinoedd gael eu colli a mynd yn fwy tameidiog. Mae pobl yn dibynnu ar y gwaith y mae’r pryfed hyn yn ei wneud wrth beillio ein cnydau bwyd, felly os yw’r pryfed hyn ar eu colled, byddwn ninnau ar ein colled. Mae’n hollbwysig bod prifysgolion yn ymchwilio i achosion a datrysiadau’r dirywiadau hyn a’u bod yn arwain y ffordd trwy ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni ar y tir y maent yn ei reoli.”

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Hoffwn longyfarch Prifysgol Abertawe ar fod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill statws Cyfeillgar i Wenyn. Dyma’r cynllun cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y DU. Rwyf yn gobeithio y caiff mwy o’n prifysgolion a sefydliadau addysg eu hysbrydoli i ddilyn Abertawe a dod yn gyfeillgar i wenyn yn fuan.”

Mae Prifysgol Abertawe bellach wedi’i gosod ymhlith y 10 o brifysgolion mwyaf gwyrdd yn y DU  gan Gynghrair Werdd People and Planet  a gyhoeddwyd yn The Guardian a dyma’r Brifysgol gyntaf i ennill statws  ‘Ecocampws Platinwm’ wrth ochr ei hachrediad ISO14001.

 Bee friendly awardMae prosiectau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys creu ardaloedd blodau gwyllt newydd, dod â chychod gwenyn i Gampws y Bae a gwella’r dolydd yn Singleton.

Dysgwch fwy am Lwybr Natur Campws Singleton.