Academydd o Goleg Peirianneg Abertawe ymhlith gwyddonwyr o fri i dderbyn Cymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Athro James Durrant FRS, Athro Ymchwil Ynni Solar Sêr Cymru yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, ymhlith 50 o wyddonwyr blaenllaw sydd wedi cael eu hethol yn gymrodorion y Gymdeithas Frenhinol.

Prof James DurrantMae Cymrodorion y Gymdeithas Frenhinol yn cynnwys y gwyddonwyr, y peirianwyr a'r technolegwyr mwyaf blaenllaw o'r DU a gwledydd y Gymanwlad neu sy'n byw ac yn gweithio yn y gwledydd hynny.

Mae'r Athro Durrant (chwith) yn un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes ynni solar. Daeth i Brifysgol Abertawe o Goleg Imperial Llundain yn 2013, ac mae'n arwain menter solar Sêr Cymru gan weithio gyda thîm prosiect SPECIFIC Prifysgol Abertawe yn y Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth, Parc Ynni Baglan.

Meddai Venki Ramakrishnan, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol: "Mae gwyddoniaeth yn un o gyflawniadau mwyaf dynolryw, sydd wedi cyfrannu'n enfawr at ffyniant ac iechyd ein byd. Yn ystod y degawdau i ddod, bydd ganddi rôl gynyddol allweddol wrth fynd i'r afael â heriau mawr ein hamser, gan gynnwys bwyd, ynni, iechyd a'r amgylchedd.

"Mae Cymrodorion newydd y Gymdeithas Frenhinol eisoes wedi cyfrannu llawer at wyddoniaeth, ac mae'n bleser mawr eu croesawu i'n rhengoedd."

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw gan y Gymdeithas Frenhinol, meddai'r Athro Durrant: "Mae'n bleser ac yn anrhydedd mawr cael fy ethol. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm holl ffrindiau a'm cydweithwyr yn Abertawe, Imperial a ledled y byd sydd wedi fy helpu i gyflawni hyn".

Mae rhestr lawn Cymrodorion ac Aelodau Tramor newydd y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer 2017 i'w gweld yma.