BLOODHOUND SSC yn cael ei yrru am y tro cyntaf erioed ym mis Hydref!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd car rasio llinell syth mwyaf datblygedig y byd, BLOODHOUND SSC, yn cael ei yrru am y tro cyntaf ym maes awyr Cernyw, Ceinewydd, ar 26 Hydref, 20 mlynedd ar ôl i'r record gyfredol o 763.035 mya cael ei gosod.

Yr Asgell-gomander Andy Green a lywiodd Thrust SCC i fuddugoliaeth ar 15 Hydref 1997 ac ef fydd wrth lyw BLOODHOUND SSC yr hydref hwn.

Gwyliwch y ffrwd byw o Geinewydd o 12.30pm ar ddydd Iau 26 Hydref

Yn ogystal â bod yn un o noddwyr cyntaf BLOODHOUND SSC, mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl hollbwysig yn llwyddiant y prosiect hyd yn hyn, gan ddarparu technoleg allweddol ers y diwrnod cyntaf yn nyddiau cynnar y cysyniad yn ôl yn 2007.

Prif gyfraniad Prifysgol Abertawe at y fenter i adeiladu car rasio ar dir a fydd yn cyrraedd 1,000myh (1,609km/yr awr) fu ei harbenigedd ym maes ymchwil Deinameg Hylifau Gyfrifiadurol, a bu ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe'n gweithio fel rhan o dîm dylunio aerodynameg y car uwchsonig.

Bydd y treialon ar y rhedffordd yn yr hydref yn nodi uchafbwynt mis o brofion i brofi llyw, breciau, hongiad a systemau data'r car, yn ogystal â'r injan jet EJ200, sef yr un injan sydd yn yr awyren Eurofighter Typhoon. Disgwylir i filoedd o ymwelwyr ddod i weld hanes yn cael ei greu wrth i BLOODHOUND SSC gael ei yrru ar gyflymderau o hyd at 200mya ar y rhedffordd 1.7 milltir (2.7km) o hyd.

BLOODHOUND SSC

Cyn iddo symud dan ei bŵer ei hun, bydd BLOODHOUND SSC yn destun sawl diwrnod o brofion heb symud yn gyntaf. Bydd yr injan jet yn rhedeg, a'r car wedi'i gadwyno i'r llawr, fel y gellir gwirio perfformiad mewnlif aer, defnydd tanwydd a systemau trydanol y car. Os bydd popeth yn iawn, cynhelir profion dynamig wedyn.

O ddiddordeb pennaf y mae gallu mewnlif yr injan jet, sydd uwchben sedd y gyrrwr, ar gyflymder isel. Dyluniwyd yr injan i weithio orau ar gyflymderau dros 800mya, felly mae angen i'r peirianwyr ddeall sut mae'n perfformio ar gyflymderau isel iawn.
 
Bydd gwybod pa mor fuan y gellir defnyddio pŵer llawn yn lleihau'r risg hon, a bydd data cyflymu 'byd go iawn' yn galluogi Ron Ayers, y Prif Aerodynamegwr, i gynllunio'r gyfres o dreialon yn Ne Affrica, pan obeithir gosod record newydd.

Yn y treialon yng Ngheinewydd hefyd, caiff Andy Green ei gyfle cyntaf i yrru'r car a phrofi teimlad y llyw, gweithrediad y throtl a'r breciau, y sŵn a'r dirgrynu - pethau nad oes modd eu hefelychu.

Yn ystod y profion, caiff y car ei bweru gan yr injan jet yn unig a bydd yn defnyddio olwyni â theiars niwmatig, 84cm ar eu traws, o awyren English Electrig Lightning, wedi'u haddasu'n arbennig gan Dunlop. Oherwydd bod yr olwynion a'r hongiad ar y rhedffordd ychydig yn fwy trwchus na'r olwyni alwminiwm solid a ddefnyddir yn y diffeithwch, ni chaiff rhai rhannau o'r corff ffibr carbon eu ffitio.

Meddai Dr Ben Evans, Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe, ac aelod o dîm cynllunio BLOODHOUND: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous tu hwnt i bawb sydd ynghlwm â phrosiect BLOODHOUND ac i bawb sydd wedi bod yn dilyn datblygiad y prosiect dros y blynyddoedd. Erbyn hyn rydym yn troi theori yn realiti ac mae hyn yn golygu gwthio cyfyngiadau galluoedd peirianneg gyfredol. Treialon Ceinewydd yw'r camau cyntaf tuag at wireddu’r breuddwyd o weld BLOODHOUND yn torri’r record byd. Mae'n fraint wirioneddol i fod wedi bod yn rhan o'r prosiect eithriadol hwn”.

Meddai Richard Noble, Cyfarwyddwr y Prosiect: "Y treialon ar redffordd Maes Awyr Cernyw yng Ngheinewydd fydd y garreg filltir fwyaf yn hanes y prosiect hyd yn hyn. Byddant yn darparu data pwysig ar berfformiad y car ac yn rhoi cyfle cyntaf i ni ymarfer y gweithdrefnau byddwn yn eu defnyddio yn ein hymdrech i dorri'r record.

"Ac, yr un mor bwysig, mae'n ffordd o ddiolch i'r ysgolion, y myfyrwyr, y teuluoedd a'r cwmnïau bach a mawr sy'n cefnogi'r prosiect. Rydym yn falch o chwifio baner dros sgiliau ac arloesi Prydeinig ar lwyfan byd-eang ond, yn bwysicaf oll, rydym yn gwneud hyn er mwyn ysbrydoli pobl ifanc.

"Y llynedd yn unig, buom yn ymgysylltu'n uniongyrchol â thros 100,000 o fyfyrwyr yn y DU, ac rydym eisoes wedi gweld rhagor o fyfyrwyr yn astudio peirianneg o ganlyniad i Brosiect BLOODHOUND. Gyda'r car yn rhedeg, gallwn arddangos gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn y ffordd fwyaf cyffrous bosib. Bant â BLOODHOUND!"


Os hoffech weld y treialon yng Ngheinewydd, cliciwch yma.