Bydd astudiaeth newydd yn archwilio effeithiolrwydd gwelliannau yn y cartref wrth helpu pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd astudiaeth gydweithredol a arweinir gan wyddonwyr data iechyd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe'n archwilio sut y gall addasiadau ac atgyweiriadau yn y cartref helpu i wella bywydau perchnogion tŷ hŷn.

Wrth i bobl heneiddio, mae’n bosib y bydd yn anos iddynt barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain fel y dymunant gan na allant symud o gwmpas gymaint. Gall symud o gwmpas eu tai ddod yn anos, gan gynyddu eu risg o gwympo. Mae rhwydwaith o asiantaethau Gofal a Thrwsio, a gynrychiolir gan yr elusen genedlaethol Gofal a Thrwsio Cymru, yn gwneud newidiadau ac addasiadau er mwyn gwneud cartrefi'n fwy addas i unigolion barhau i fyw yno a chadw'n iach.

Mae adroddiadau diweddar yn awgrymu bod dros 2,500 o welyau ysbyty bob dydd yn cael eu defnyddio gan gleifion sy'n cael eu rhyddhau'n hwyr oherwydd problemau yn y system gofal cymdeithasol. Mae Gofal a Thrwsio'n darparu gwasanaeth Ymateb Cyflym er mwyn galluogi pobl i ddychwelyd adref ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gwymp, sydd felly’n helpu i leihau'r nifer o gleifion a ryddheir yn hwyr yn y GIG.

Meddai Dr Sarah Rodgers, Athro Cyswllt yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, sy'n arwain y tîm ymchwil: "Hoffem wybod pa mor effeithiol yw’r gwasanaeth hwn i bobl wahanol. Byddwn yn archwilio a yw ymweliadau cyngor ac addasiadau cartref gan Gofal a Thrwsio'n caniatáu i bobl adael yr ysbyty a dychwelyd i'w cartrefi eu hunain yn gyflymach. Byddwn hefyd yn ystyried a yw'r cymorth hwn yn eu helpu i fyw yno'n annibynnol am gyfnod hwy."

Bydd y tîm ymchwil, gan gynnwys Gofal a Thrwsio, Ysbyty Addysgu Bradford, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a'r Grŵp Gwybodeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, yn archwilio effaith y newidiadau a wnaethpwyd i gartrefi ar iechyd pobl hŷn a derbyniadau i'r ysbyty ar frys ar ôl cwympo. 

Bydd y tîm yn defnyddio data gan Gofal a Thrwsio Cymru ynghyd â data derbyniadau i'r ysbyty yng nghronfa ddata SAIL. Mae'r Gronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn system o'r radd flaenaf a leolir gyda'r Grŵp Gwybodeg Iechyd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, sy'n dod â data ynghyd mewn ffordd ddiogel, ddibynadwy a chyfrinachol. Bydd yr astudiaeth yn archwilio newidiadau mewn derbyniadau i'r ysbyty ar hyd amser i unigolion sy'n derbyn cymorth gan Gofal a Thrwsio, o'u cymharu â phobl sydd yr un mor fregus yng Nghymru ond nad ydynt wedi derbyn y cymorth hwn.

Meddai Chris Jones, Prif Weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru "Bydd yr ymchwil hon yn darparu tystiolaeth iechyd sy’n helpu i ddangos pwysigrwydd gwaith ataliol a bydd yn ein helpu i dargedu'n hadnoddau'n fwy effeithiol. Bydd yn ein helpu i ddeall at bwy y dylem fod yn anelu'n gwasanaethau er mwyn cael y budd mwyaf i gleifion, eu teuluoedd, a gwasanaethau iechyd.  Mae ymyriadau ataliol cynnar, gan gynnwys cartref iach, yn allweddol er mwyn lleihau dibyniaeth a phwysau ar y GIG, a byddant yn fwyfwy pwysig wrth i’n poblogaeth barhau i heneiddio."

Gallai effaith yr ymchwil hon, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fod o fudd i gymdeithas ar y cyfan, yn enwedig gan ein bod yn rhan o gymdeithas â phoblogaeth sy'n heneiddio. Gallai alluogi unigolion i barhau i fod yn annibynnol os dymunant aros yng nghysur eu hamgylchedd cyfarwydd. Bydd y bartneriaeth ymchwil newydd hon rhwng iechyd, tai a gwasanaethau cymunedol yn helpu gwasanaethau i ymateb gyflymaf i'r rhai y mae gwir angen cymorth arnynt.