Cwmni deillio Prifysgol Abertawe'n lansio plaleiddiaid naturiol newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Bionema Ltd, sy'n gwmni deillio Prifysgol Abertawe, wedi lansio ystod o blaleiddiaid naturiol newydd heb gemegau i reoli pryfed, sef NemaTridentTM.

Bionema NemaTrident Launch

Dyfeisiwyd a datblygwyd y cynhyrchion newydd yn dilyn blynyddoedd maith o ymchwil mewn labordai ym Mhrifysgol Abertawe. Yn sgil profion mewn amrywiaeth o safleoedd ledled y DU, dros gyfnodau hir, dangoswyd eu bod yn perfformio'n well na'r cynnyrch rhyngwladol mwyaf poblogaidd yn y farchnad.

Mae defnyddio plaleiddiaid organig yn fwyfwy poblogaidd ymhlith tyfwyr, gofalwyr grin a fforestwyr, a'r mis hwn, caiff ystod unigryw o gynhyrchion ar sail nematodau ei lansio. Nid yw'r cynhyrchion hyn yn cynnwys unrhyw gemegau ac maent 20 y cant yn fwy effeithlon na'u cystadleuwyr agosaf.

Mae'r teulu NemaTrident® o fio-blaleiddiaid yn defnyddio fformwla unigryw a ddatblygwyd gan Bionema. Dangoswyd drwy brofion gwyddonol ei fod yn cynyddu cyflymder ac effeithlonrwydd nematodau (mwydon bychain iawn a geir yn yr amgylchedd naturiol) wrth hela a lladd larfae, sef pla sy'n achosi difrod gwerth biliynau o bunnoedd ledled y byd.

Bio-baleiddiaid yw'r dewis naturiol yn lle cemegau gwenwynig. Maent yn defnyddio planhigion, ffyngau a mwynau i reoli pryfed sy'n ymosod ar fwyd a chnydau eraill o bob math.  Maent yn llai gwenwynig na phlaleiddiaid cemegol, yn dadelfennu'n gyflym a gellir targedu plâu penodol i osgoi niweidio pryfed llesol.

"Gall tyfwyr, gofalwyr grîn a fforestwyr sy'n defnyddio ein cynhyrchion newydd ddisgwyl dull hynod effeithiol o reoli plâu, sy'n treiddio'n ddyfnach i'r pridd ac yn darparu system hirdymor ar gyfer rheoli larfae llawer o bryfed a lindys," meddai Cyfarwyddwr Rheoli Bionema, Dr Minshad Ansari.

Mae'r cynhyrchion diogel a chynaliadwy hyn yn lladd 70-100% o blâu ac yn llenwi'r bwlch yn y farchnad o ganlyniad i wahardd llawer o blaleiddiaid traddodiadol.

  • NemaTrident® CT (nematodau sy'n goddef tywydd oer i reoli gwiddon gwynwydd);
  • NemaTrident® H (rheoli gwiddon gwynwydd mewn twneli polythen neu gnydau a ddiogelir);
  • NemaTrident®C (rheoli lindys chwilod y gerddi mewn caeau tywarch);
  • NemaTrident® L (rheoli larfae cynrhon lledr, rhincod y tes a chymynwyr mewn caeau tywarch a glaswellt);
  • NemaTrident® T (Cydia pomonella, lindys, Scatella stagnalis a gwyfynod ffrwyth mewn coed ffrwythau a choedwigoedd);
  • NemaTrident® S (rheoli larfae Sciaridae wrth dyfu madarch);
  • NemaTrident® F (rheoli thripsod blodau'r gorllewin a lindys y dail mewn ffrwythau meddal a chnydau eraill).

Mae cynhyrchion NemaTrident® yn amddiffyn gwreiddiau'r holl blanhigion llysieuol, blodeuol, planhigion gwely a phlanhigion pot. Gellir eu defnyddio ar gaeau tywarch a chaeau chwarae, gan alluogi tyfwyr a gofalwyr grîn i ddiogelu eu cnydau a'u planhigion rhag gwiddon gwynwydd a phlâu eraill sy'n byw yn y pridd, gan gynyddu cnydau a gwella twf eu planhigion.

Bionema NemaTrident Launch 2 "Yn ein treialon maes yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mewn amgylcheddau garddwriaethol a choedwigaeth, buom yn ymchwilio i wahanol rywogaethau nematodau.  Profwyd bod ein cynnyrch NemaTrident unigryw â thri chyfansawdd, rhwng 20% a 30% yn fwy effeithlon na phlaleiddiaid eraill sydd ar y farchnad - mewn profion, lladdwyd hyd at 99% o blâu," meddai Dr Ansari.

"Mae tyfwyr yn hoffi hwylustod y nematodau llesol, a thrwy ychwanegu'r cynnyrch tri chyfansawdd hwn at ein portffolio o gynhyrchion, gall Bionema ddarparu plaleiddiaid heb unrhyw gemegau i dyfwyr cnydau organig.

Mae ystod NemaTrident® Bionema ar gael ar hyn o bryd o wefan Bionema – http://bionema.com/ – a thrwy ddosbarthwyr penodol yn y DU a'r UE.  Mae gwahanol feintiau pecyn ar gael: 25, 50, 250 a 500 miliwn o nematodau fesul pecyn allanol. Mae pob pecyn yn cynnwys nematodau llesol a dylid eu defnyddio ynghyd â'r cyflyrydd pridd a chan ddilyn y cyfarwyddiadau llawn a ddarperir i gyflawni'r canlyniadau gorau.